16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein cwrs Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3 yn rhoi gwell dealltwriaeth i ddysgwyr o’u rolau a’u cyfrifoldebau, gan ddatblygu eu proffesiynoldeb, eu gwybodaeth a’u hyder yn eu gwaith gyda phlant, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Bydd ymarferwyr yn mireinio sgiliau a gwybodaeth sy’n bodoli eisoes ac yn gweithio’n effeithiol gyda’r athro i gefnogi dysgu, lles, gofal ac ymddygiad disgyblion.

Byddant yn datblygu sgiliau a gwybodaeth broffesiynol a thechnegol sy’n galluogi dysgwyr i ymgymryd â rolau a chyfrifoldeb mwy heriol yn y lleoliad yn hyderus.

Mae’r Brentisiaeth hon wedi’i hanelu at staff cymorth dysgu sy’n gweithio o dan oruchwyliaeth yr athro dosbarth neu weithwyr proffesiynol eraill mewn lleoliad ysgol, y mae eu cynlluniau gwersi a’u cyfarwyddyd o ddydd i ddydd yn gosod y fframwaith y mae’r unigolyn yn gweithio oddi tano.

Efallai y byddant hefyd yn gyfrifol am dynnu grwpiau bychan yn ôl neu helpu i redeg cynlluniau megis Read Write Inc. a mathau eraill o gymorth arbenigol.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

Mae enghreifftiau o unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Datblygiad Plant a Phobl Ifanc
  • Cefnogi Gweithgareddau Dysgu
  • Diogelu Lles Plant a Phobl Ifanc

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, dyrennir aseswr i ddysgwyr hefyd., bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn ei weithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen at ein Prentisiaeth Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 3. Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:

  • Cynorthwyydd Addysgu/Ystafell Ddosbarth/Cymorth Dysgu
  • Cynorthwyydd Cymorth Arbenigol
  • Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA)
  • Cynorthwyydd Cymorth Bugeiliol/Lles

 

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
  • committed to undertaking an average of 4-6 hours of study a month
  • working in a role that is relevant to the qualification
  • employed for at least 51% of your contracted hours in Wales

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy