16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Ydych chi’n fusnes yng Nghymru sy’n awyddus i dyfu eich tîm tra’n rhoi yn ôl i’r gymuned? Trwy Twf Swyddi Cymru+, mae ACT yn eich cysylltu â phobl ifanc llawn cymhelliant sy’n barod i ddysgu, gweithio a chyfrannu at eich busnes.

Pam gweithio gydag ACT?

Trwy bartneru ag ACT, byddwch chi’n gweithio gyda ni i gynnig profiad gwaith neu leoliadau i’n pobl ifanc i helpu i ddatblygu eu sgiliau. Mae dysgwyr yn derbyn lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos yn dibynnu ar eu horiau, hyd at £19.50 yr wythnos ar gyfer lwfans bwyd a chymorth gyda chostau teithio – sy’n golygu nad oes unrhyw gostau i chi.

Yn ogystal â’r manteision uniongyrchol o ymgysylltu â phobl ifanc, mae gweithio gyda ni yn cynnig manteision busnes amrywiol i chi a all wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant eich sefydliad.

Dyma rai manteision allweddol i’w hystyried:

  • Dim costau cyflogi. Does dim cost i gymryd dysgwr Twf Swyddi Cymru+. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, ac mae dysgwyr yn derbyn lwfans hyfforddi, sy’n golygu eich bod yn elwa o ffordd gost-effeithiol, hyblyg o ddod â thalent newydd i’ch tîm.
  • Llai o gostau recriwtio. Mae dysgwyr llwyddiannus yn dod yn ymgeiswyr cryf ar gyfer cyflogaeth.
  • Effaith gymdeithasol. Helpwch i adeiladu gweithlu medrus wrth roi yn ôl i’ch cymuned.
Ymrwymiad tymor byr

Os nad ydych chi’n barod i gynnig lleoliad neu gyfleoedd swyddi, gallech helpu i ysbrydoli ac ysgogi ein pobl ifanc i’w helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth. O brofiad, gwelwn fod darparu cyfleoedd fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i’n pobl ifanc a’u helpu i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.

Gallech ddarparu cyfleoedd fel:
  • Profiad Gwaith
  • Ffug Gyfweliadau
  • Ymweliadau â chyflogwyr a sgyrsiau gyrfa
  • Gweithdai cyflogadwyedd

 

Trwy weithio gyda ni, bydd gennych fynediad at:

  • Pobl ifanc sy’n barod am swyddi wedi’u hyfforddi mewn sgiliau allweddol fel gwasanaeth cwsmer, TG, gweinyddu, adeiladu, a mwy
  • Cronfa o ymgeiswyr sy’n cael eu cefnogi a’u datblygu drwy ein rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra
  • Cefnogaeth a mentora parhaus i chi a’r dysgwr i sicrhau lleoliad llwyddiannus
  • Cyfleoedd i helpu i lunio talent at y dyfodol yn eich sector
  • Y boddhad o gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc lleol

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig ffordd hyblyg, risg isel o recriwtio a hyfforddi gweithwyr y dyfodol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal dysgwr TSC+?

Ymunwch ag ACT i ddod yn rhan o raglen sy’n trawsnewid rhagolygon – ac yn rhoi hwb i fusnesau. Cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod sut y gall Twf Swyddi Cymru+ weithio i chi.

Mwy o wybodaeth

Straeon go iawn gan gyflogwyr TSC+

Dewch i weld sut mae Twf Swyddi Cymru+ wedi helpu pobl go iawn i ddechrau gyrfaoedd llwyddiannus. Clywch gan ddysgwyr ifanc am eu profiadau, yr heriau maen nhw'n eu goresgyn, a ble maen nhw nawr.
Sarah Bruton and learner Scarlett behind the reception counter at Captiva Spa
Gwallt a Gwaith Barbwr

Captiva Spa

Mae Captiva Spa o Gaerffili yn un o nifer o fusnesau yng Nghymru sy’n gweld manteision cydweithio proffesiynol ar ôl cynnig lleoliadau gwaith i ddysgwyr. Trwy eu partneriaeth â darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymru, ACT, mae Captiva Spa wedi agor ei ddrysau i brentisiaid ifanc rhwng 16 a 19 oed, gan… Read More
Gweinyddol Busnes

Ramsay & White

“Roedden ni angen unigolion oedd yn barod i fod yn rhagweithiol ac yn llawn cymhelliant, ac i ddysgu. Roedd y rhinweddau hynny’n hanfodol oherwydd bod y gwaith yn cynnwys nifer o brosesau manwl.”  Read More
Gweinyddol Busnes

Lois Denatale

“Cyn i ni gysylltu ag ACT, roeddwn ychydig yn betrusgar am yr hyn oedd yn gysylltiedig â chymryd prentis neu ddysgwr ifanc ymlaen. Doedd e ddim yn rhywbeth roeddwn i’n gwybod unrhyw beth amdano ond unwaith i fi siarad ag ACT roedd yn syml iawn. Fe ddaethon nhw allan i’n gweld ni ac roedd y broses yn llyfn o’r diwrnod cyntaf. Byddwn i’n ei argymell i unrhyw fusnes.” Read More

Cwestiynau Cyffredin – Twf Swyddi Cymru+

Ydy, does dim cost i chi, gan fod yr holl gostau lleoliad yn cael eu talu gennym ni. Rydym hefyd yn sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o’r holl gyllid sydd ar gael i gefnogi eich busnes a datblygiad pobl ifanc.

Er y byddai’n wych petai chi’n gallu cynnig swydd neu brentisiaeth ar ddiwedd y lleoliad, nid yw’n rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei warantu. Gall helpu ein pobl ifanc gymryd eu camau cyntaf i’r byd gwaith drwy gynnig lleoliadau gwaith a/neu gyfleoedd gwaith i bobl ifanc 16-19 oed fod o fudd mawr i’w gyrfa.

Ydych! Nid oes dyddiadau tymor penodol ar gyfer Twf Swyddi Cymru+. Mae’n rhedeg trwy gydol y flwyddyn, sy’n golygu y gallwch recriwtio pryd bynnag y mae’n addas i chi.

Trwy wneud yr addewid, byddwn yn darparu dysgwr i chi ar leoliad. Gall hyn fod yn brofiad gwaith tymor byr, neu leoliad gwaith hirach, y gallwch ei adolygu’n rheolaidd. Ar ôl ei gwblhau, bydd ein tîm yn trafod y cyfle i drosglwyddo’r dysgwr i brentisiaeth a ariennir neu gyflogaeth gyda chi.

Mae ein tîm yn sicrhau proses llyfn o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnig cefnogaeth barhaus drwy’r amser. Bydd hyfforddwr Byd Gwaith yn gweithio gyda chi a’r dysgwr trwy gydol y lleoliad.

Gallwn hefyd eich helpu i ddeall a gwneud y mwyaf o gyllid ychwanegol a allai fod ar gael i’ch busnes i gefnogi uwchsgilio. Mae ein pecynnau hyfforddi deinamig wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion cyflogwyr Cymru, gan arfogi eu gweithlu â sgiliau hanfodol sy’n benodol i’r sector.