16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Yn angerddol ac ymroddedig, mae Fatima “Faith” Bahwish, 18, eisiau rhoi ei marc ar y byd ac yn dilyn ei hamser gydag ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, a gyrfa gosod brics newydd gyda KEIR Construction, dyna’n union beth mae hi’n gwneud.

Ar ôl symud o Bradford i Gaerdydd yn ystod y pandemig, roedd yn edrych fel petai taith academaidd Faith wedi mapio o’i blaen gan astudio Mathemateg a Gwyddoniaeth Safon Uwch yn ei choleg lleol. Fodd bynnag, sylweddolodd yn fuan nad oedd ei dewisiadau yn ei gwneud hi’n hapus a bu cyfle siawns gyda’i hewythr yn y diwydiant adeiladu, yn sbardun i’w gosod ar lwybr newydd.

“Gadewais yr ysgol uwchradd gyda fy nghymwysterau TGAU a mynd i’r coleg dim ond oherwydd bod pawb arall yn gwneud. Doeddwn i ddim yn hoff ohono felly awgrymodd fy ewythr fy mod i’n gweithio gydag e tra mod i’n ymchwilio beth i’w wneud nesaf. Mae’n weithiwr adeiladu aml-fedrus sy’n berchen ar ei fusnes ei hun, felly fe wnes i weithio gyda fe am gwpl o wythnosau yn ystod yr haf ac roeddwn i wrth fy modd. Roeddwn i’n mynd adref bob dydd yn teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth ac roeddwn i’n mwynhau’r boddhad swydd roedd hyn yn rhoi i mi.”

Fel un a oedd gynt wedi ystyried dilyn gyrfa mewn celf ac wrth ei bodd yn yr awyr agored a defnyddio eu dwylo, ymddiriedodd Faith yn ei hangerdd newydd dros adeiladwaith ac roedd yn awyddus i’w ddilyn.

“Siaradais gyda chynrychiolydd dysgwyr am fy opsiynau o ran gyrfa ac awgrymon nhw y byddai ACT a’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) yn addas iawn. Rwyf wedi mwynhau’r hyblygrwydd sydd ar gael yn ACT a dwi wedi dysgu llawer. Mae TSC+ wedi dysgu sgiliau defnyddiol iawn i mi er mwyn fy ngalluogi i fod yn gyflogadwy a dod o hyd i swydd.”

Mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu i bobl ifanc 16–18 oed sy’n eu helpu i feithrin y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i gael swydd neu gael hyfforddiant pellach. Gan ddeall nad yw pob person yr un fath, mae rhaglen TSC+ yn gwbl unigryw ac wedi ei theilwra i gyd-fynd ag anghenion dysgwyr unigol.

Yn achos Faith, dewisodd ganolbwyntio ar astudio Adeiladwaith a chael hyfforddiant a chymwysterau ymarferol yng Nghanolfan Sgiliau ACT ar Heol Hadfield. Wrth i sgiliau Faith ddatblygu cyflwynodd ACT hi i KEIR Construction, lle mae hi bellach yn cael ei chyflogi fel gosodwr brics. Rôl y mae hi’n gyffrous ac yn angerddol iawn amdani.

“Mae gosod briciau’n anodd iawn yn gorfforol ond rwy’n mwynhau gwneud rhywbeth mewn maes nad yw pobl yn siŵr y gallwch chi ei wneud fel menyw. Dwi wrth fy modd yn eu profi nhw’n anghywir ac yn gwneud gwaith da iawn. Rwy’n credu bod dysgu crefft yn un o’r pethau ymarferol pwysicaf y gallwch ei wneud mewn bywyd. Dwi’n gwybod sut i adeiladu tŷ i fyw ynddo ac rydyn ni wastad yn mynd i fod angen tai”

Yn ôl Women In Construction, dim ond 10% o’r gweithlu adeiladu sy’n fenywod, gyda dim ond 2.5% yn grefftwyr. Gyda darogan y bydd swyddi adeiladu yn codi dros 2 filiwn yn 2022, mae dewis gyrfa Faith yn edrych yn addawol iawn. Mae hi’n credu bod y gefnogaeth a gafodd gan ACT wedi bod yn gymorth enfawr wrth helpu i’w sefydlu ar ei llwybr gyrfa.

Rydw i mor ddiolchgar bod ACT wedi fy rhoi mewn cysylltiad â KEIR. Fe wnaethon nhw hyd yn oed fy hebrwng i fy nghyfweliad a fy helpu i sortio fy ngherdyn CSCS. Heb ACT fyddwn i ddim hyd yn oed wedi meddwl mynd at KEIR felly mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel.

Yn dilyn ei hamser gydag ACT ar TSC+, mae Faith yn llythrennol yn adeiladu dyfodol newydd i’w hun ac yn gyffrous am y cyfleoedd sydd o’i blaen. Mae’n anelu’n uchel.

“Mae bywyd yn llawn cyfleoedd ac yn cyflwyno cymaint o brofiadau. I fi, mae’n rhaid i bob diwrnod fod yn wahanol ac mae angen i mi ddysgu rhywbeth newydd hefyd. Dwi’n teimlo bod gosod brics yn cynnig hynny i mi. Dwi wrth fy modd gyda’r syniad o adeiladu rhywbeth enfawr a bod yn gyfrifol am garreg filltir sy’n byw ymlaen am byth mewn hanes ymhell ar ôl i chi fynd. Dwi eisiau cyfrannu i’r byd a gadael marc arno.”

Gyda phen doeth ar ysgwyddau ifanc, a’i graean dur o benderfyniad, bydd Faith yn siŵr o wneud hynny. Mae hi’n rhannu’r darn anhygoel hwn o gyngor gydag unrhyw un, beth bynnag fo’u hoedran, sy’n ystyried eu dewisiadau gyrfa.

“Mae mor bwysig dilyn beth rydych chi eisiau ei wneud yn hytrach na beth rydych chi’n teimlo dan bwysau i’w wneud. Es i i’r coleg gan feddwl mai dyna oedd fy unig ddewis a wnes i ddarganfod bod cymaint o ffyrdd eraill i fyw. Does dim rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â phawb arall. Dyna pam rwy’n caru ACT oherwydd roeddwn i’n gallu archwilio’r hyn roeddwn i eisiau gwneud gyda fy mywyd. Dwi’n falch o fod eisiau bod yn wahanol. Mae’r mwyafrif o bobl yn ymateb yn bositif i fy newis gyrfa. Pan dwi’n dweud wrth bobl fy mod i’n friciwr, maen nhw bob amser yn gwenu mewn syndod ac yn dweud ‘mae hynny’n wirioneddol cŵl’.