Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n barod am waith llawn amser ac eisiau mynd i mewn i waith cyn gynted a phosib yna dyma’r llinyn i chi. Byddwn yn eich helpu i sicrhau lleoliadau gwaith lle gallwch gael profiad ymarferol wrth i chi barhau i gael yr hyfforddiant a’r dysgu angenrheidiol.
Bydd eich cynllun dysgu unigol yn cynnwys:
- Gwaith paratoi sy’n gysylltiedig â chyflogaeth megis sgiliau hanfodol a beth i’w ddisgwyl pan gewch swydd
- Cyflogadwyedd a pharatoi sy’n gysylltiedig â gwaith
- Sesiynau cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar chwilio am swyddi, ceisiadau am swyddi, ac ymddygiad yn y gwaith
- Hyfforddiant techneg cyfweld
- Cymhwyster Sgiliau Hanfodol
- Amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi sy’n canolbwyntio ar hyfforddiant swydd, cymorth gyda chwilio am swyddi a chymhorthdal cyflog, mentora gwaith, a chyswllt â chyflogwyr
Ar y llinyn TSC+ hwn gallwch dderbyn lwfans hyfforddi o hyd at £55 yr wythnos wrth i chi chwilio am swydd.
I gael gwybod mwy am ein maes Cyflogaeth cliciwch yma.