16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Mae Lluosi yn rhaglen newydd a ariennir gan y llywodraeth i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd.

Gall ACT ddarparu cyrsiau Lluosi wedi’u hariannu’n llawn, o fagu hyder gyda rhifedd i gymwysterau ffurfiol, ar gyfer unrhyw oedolyn 19 oed a throsodd sydd heb radd C  TGAU Mathemateg (neu gyfwerth) ac sy’n byw yn:

  • Rhondda Cynon Taff 
  • Bro Morgannwg

Gall sgiliau rhifedd da ddatgloi cyfleoedd gwaith ac arwain at gyflogau uwch neu astudiaethau pellach. Maent hefyd yn helpu mewn bywyd bob dydd, fel helpu plant gyda’u gwaith cartref a chyllidebu.

Yn dibynnu ar eich lefel, mae yna gyrsiau sy’n addas i bawb o ddechreuwyr i lefelau uwch. Gallwch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i’ch anghenion.

Gall ACT weithio gyda chyflogwyr i ddatblygu cyrsiau pwrpasol wedi’u teilwra i ddiwydiant sy’n datblygu’r sgiliau rhifedd sydd eu hangen yn y gweithle.

  • Yn cael eu cyflwyno fel cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth neu sesiynau o bell, gan gynnwys opsiynau rhan-amser a gyda’r nos,
  • Yn gallu eich helpu i ennill cymhwyster,
  • Yn cynyddu hyder gyda rhifau fel y cam cyntaf tuag at gymhwyster
  • Yn gallu cael eu cyflwyno ar y cyd â chyflogwyr, gan gynnwys sesiynau ar-lein
  • Yn darparu arweiniad a chymorth sy’n rhoi rhifedd mewn cyd-destun bob dydd dealladwy

Gydag ACT gallwch adeiladu eich hyder gyda rhifau a lluosi’ch cyfleoedd.

Cewch fwy o wybodaeth am y rhaglen Lluosi a ariennir gan lywodraeth yma

Tel: 02920474063       E-bost: multiply@acttraining.org.uk