Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae ein Prentisiaeth Diploma Gwasanaethau Cwsmeriaid Sylfaen ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio neu sydd am weithio yn y sector gwasanaethau cwsmer a sectorau cysylltiedig eraill e.e. canolfan gyswllt a swyddi gwerthiant.
Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n newydd i’r rôl ac sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Byddai ymgeisydd nodweddiadol yn aelod o dîm sy’n gweithio mewn rôl gwasanaethau cwsmer.
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sydd fwyaf addas i’ch rôl, a’ch busnes).
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau
Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.
Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:
- Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmer
- Gweithredwr Gwasanaeth Cwsmer
- Ymgynghorydd Canolfan Alwadau
- Gweithredwr Desg Gymorth
- Unrhyw un sy’n delio â chwsmeriaid mewnol neu allanol yn rheolaidd
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru · ddim mewn addysg llawn amser
- ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
- Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
- fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
- gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru