16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Mae eich taith dysgwr yn dechrau fan hyn!

Os ydych chi eisiau gwella’ch hun, eich bywyd a’ch rhagolygon gyrfa, yna rydych chi wedi dod i’r lle iawn.

Bob blwyddyn, rydym yn cefnogi miloedd o bobl i gyflawni eu huchelgais gyrfa drwy ein hystod eang o raglenni hyfforddi a chyfleoedd cyflogaeth ledled Cymru.

Yn y rhan fwyaf o’n rhaglenni, boed hynny’n rhaglen Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch, rydych chi’n dysgu yn y swydd, yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, yn ennill cyflog, yn ennill sgiliau ac yn adeiladu gyrfa gwerth chweil.

Ein rhaglenni

Ydych chi eisiau ennill arian, dod o hyd i annibyniaeth a rhoi eich cam cyntaf ar yr ysgol yrfa?

Efallai eich bod yn chwilio am y swydd gywir, yn ystyried eich camau nesaf mewn addysg neu efallai mai dim ond ychydig o gymorth sydd ei angen arnoch i’ch helpu chi.

Dyma le gall ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+  (TSC+) helpu. Mae’n ffordd wych o roi hwb i’ch hyder a chael blas ar waith y gallai fod o ddiddordeb i chi. Byddwch hefyd yn cael mynediad at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn eich ardal.

Os ydych chi am ddechrau eich gyrfa neu roi hwb i’ch gyrfa bresennol, mae Prentisiaeth yn lle gwych i ddechrau.

Rhaglen ddysgu seiliedig ar waith yw Prentisiaeth sy’n eich helpu i ddatblygu sgiliau proffesiynol ac ennill cymhwyster lefel 2-5 a gydnabyddir yn genedlaethol, tra’n ennill cyflog – sy’n ei wneud yn ddewis gyrfa ardderchog.

Os ydych chi eisiau cael y gorau o Brentisiaethau ac eisiau gweithio tuag at gymhwyster lefel gradd sylfaen wrth ennill a dysgu, yna mae Prentisiaeth Uwch ar eich cyfer chi.

Mae Prentisiaeth Uwch yn debyg i Brentisiaeth arferol yn yr ystyr y bydd yn rhoi cymysgedd o hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith. Fodd bynnag, mae Prentisiaethau Uwch wedi’u cynllunio i ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwysterau i’r safon uchaf bosibl.

Cymorth dysgu

Rydym am i’n holl ddysgwyr anhygoel fod y gorau allan nhw fod, ac i sicrhau hyn, mae gennym ystod eang o gefnogaeth ar  gael. Mae gennym gefnogaeth dysgu a lles arbenigol i’ch helpu i lwyddo yn eich rhaglen hyfforddi a’ch nodau gyrfa. Mae ein tîm ymroddedig ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad drwy gydol eich hyfforddiant.

Fel dysgwr ACT, mae gennych hefyd fynediad am ddim i gymuned cymheiriaid diogel, dienw ar-lein sy’n cefnogi iechyd meddwl ein holl ddysgwyr 24/7.

y cant

98
Dywedodd 98% o’n dysgwyr fod eu cymhwyster yn berthnasol i'w rôl swydd, neu rôl swydd yn y dyfodol

y cant

100
Roedd 100% o'n dysgwyr yn teimlo'n ddiogel yn dysgu yn ACT

y cant

96
Rhoddodd 96% o'n dysgwyr radd gadarnhaol i ni

Rydyn ni yma i chi!

Mae ein tîm o diwtoriaid, aseswyr a chynghorwyr ymroddedig yn barod i ddod o hyd i raglen neu gymhwyster sy’n addas i chi a’ch anghenion.