Mae Gareth Jones, sy’n hoff o gŵn, yn helpu eraill i ddysgu gofal cŵn, trwy weithio gydag ACT – y sefydliad a’i rhoddodd ar y llwybr i agor salon anifeiliaid anwes enwog.
Dysgodd y brodor 29 mlwydd oed o Gaerffili ei sgiliau gyda’r darparwr hyfforddiant blaenllaw, sydd â chanolfan ar Stryd y Farchnad yn y dref, a llawer mwy ar draws De Cymru.
Ynghyd â’i bartner Jack Pullin, sefydlodd y gwasanaeth prydferthu cŵn Pupperazi yn 2018, ac maen nhw newydd agor adeilad newydd ym Medwas.
Defnyddiodd Gareth ei hyfforddiant ei hun i gyrraedd lle mae heddiw, felly mae am helpu eraill yng Nghaerffili i fynd i mewn i’r diwydiant anarferol o brydferthu cŵn! Bydd yn derbyn Dysgwyr Gofal Anifeiliaid o ACT ar leoliadau yn Pupperazi eleni, gan ddarparu profiad gwaith gwerthfawr i broffesiwn poblogaidd.
Dywedodd: “Byddwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc weithio gyda ni yn ein salon prysur, i’w helpu i ddysgu pethau newydd a rhoi cyfle iddynt weithio gydag anifeiliaid. Byddwn hefyd yn helpu’r bobl ifanc i ddysgu am fusnes.”
Mae Gareth newydd ddychwelyd o sioe gŵn fwyaf mawreddog y byd, Crufts, a bydd y rhai mae’n eu tywys ar leoliadau yn Pupperazi yn dysgu sut i gyflwyno anifeiliaid anwes ar gyfer unrhyw bodiwm!
Yn siop newydd Pupperazi yn Uned 8/9 Afon Court, Bedwas, bydd cŵn cwsmeriaid yn cael eu prydferthu’n fedrus, tra bod dewis eang o deganau anifeiliaid anwes a danteithion RAW Supplies hefyd ar werth.
Dywedodd Gareth:
ACT yw’r lle i helpu pobl ifanc i fynd i rywle mewn bywyd. Hefyd, bydd Pupperazi yn dysgu sgiliau iddynt yn fewnol, i gefnogi eu cariad at anifeiliaid. Mae ACT yn angerddol am helpu pobl ifanc i gael y swyddi maen nhw eu heisiau a’r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau’r swyddi hyn.
Roedd y siop Pupperazi wreiddiol yn Aberpennar. Nawr, mae’r entrepreneur ifanc hwn yn hapus i gadw swyddi a hyfforddiant yn ardal Caerffili, er mwyn i’r dref mae’n ei charu barhau i ffynnu.
Ychwanegodd: “Mae bod wedi ein lleoli yng Nghaerffili yn anhygoel gan fy mod i’n dod o Gaerffili a gallwn ddod â’r gorau i dref Caerffili.”
Ychwanegodd Lewis Bowden, Rheolwr Rhaglen ACT: “Rwy’n falch iawn bod Gareth bellach yn rhoi rhywbeth yn ôl i’n dysgwyr, drwy roi cyfle lleoliad gwaith mor foddhaus a buddiol iddynt.”
Ewch i www.pupperazi.co.uk
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant Gofal Anifeiliaid yn ACT (rhan o’r fenter JGW+ newydd) ewch i yma.