16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Ebr 2024 / News

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth wedi gosod ACT yn y seithfed safle ar hugain ar eu rhestr o “100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol”.

Sefydlwyd Gwobrau FREDIE saith mlynedd yn ôl i hyrwyddo a dathlu cwmnïau ac unigolion sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl yn eu hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Cafodd y sefydliadau llwyddiannus eleni eu hanrhydeddu yn gynharach ym mis Mehefin mewn seremoni fawreddog yng Nghlwb Pêl-droed Aston Villa ym Mirmingham.

Cafodd Charlotte Dando, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant ACT, ei chydnabod hefyd am ei chyfraniadau i FREDIE ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y categori “Unigolyn Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn”.

Mae FREDIE (sy’n cynrychioli Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu yn Saesneg) yn ganolog i bopeth a wnawn yma yn ACT ac rydym ni’n falch o dderbyn y wobr hon, ynghyd â gweld ein hymdrechion yn cael eu cydnabod.

Dywedodd Solat Chaudhry, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth:

Rwy’n anfon fy llongyfarchiadau dwysaf i ACT ar gyrraedd y seithfed safle ar hugain ym Mynegai 100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol 2022. Rydym ni’n dathlu gwaith eithriadol gan bobl a sefydliadau sydd â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhedeg drwy eu gwythiennau. Gadewch i ni lawenhau yn hyn ac adeiladu cymdeithas well.

Gwobrwywyd ACT am nifer o arferion a pholisïau FREDIE effeithiol a roddwyd ar waith i greu diwylliant o barch, tegwch ac urddas i bawb. Bydd Panel Ymgynghorol EDI (sy’n golygu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Saesneg) yn parhau i weithio gyda’r Grŵp Llywio EDI ac yn parhau i ddatblygu’r arferion a’r polisïau hyn ymhellach.

Anrhydeddwyd ACT ymhellach gan Wobrau FREDIE. Cawsant hefyd gyflawniad amodol Safon Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth!

Dywedodd Richard Spear, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym ni wrth ein bodd ac yn hynod falch o gael ein cydnabod am ein hymrwymiad i Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu gan wobrau FREDIE. Mae’r egwyddorion hyn wrth wraidd ACT a byddant yn parhau i’n harwain ni a’n hymrwymiad i wella bywydau pobl trwy raglenni dysgu rhagorol.

I weld y rhestr lawn o enillwyr Gwobr FREDIE, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth am ein polisïau FREDIE, cliciwch yma.

Rhannwch