16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Ebr 2024 / Company News

Sut mae un ffoadur o Wcráin wedi treulio’r 12 mis ers i’r rhyfel ddechrau yn ei mamwlad yn helpu eraill tebyg iddi wneud y mwyaf o’u bywyd newydd yn y DU

Bydd ffoadur o Wcráin sy’n byw yng Nghymru yn treulio pen-blwydd cyntaf dechreuad y rhyfel yn ei mamwlad yn yr un modd ag y mae wedi gwneud bob dydd ers hynny – yn helpu eraill fel hi i wneud y gorau o’u bywyd newydd yn y DU.

Bydd hi’n 12 mis yr wythnos hon (Chwefror 24ain) i Rwsia ymosod gyntaf ar Wcráin, gan orfodi Diana Oleksiuk a’i mab ifanc i ffoi o’u tref enedigol, Kitsman, gan adael eu gŵr a’u tad, Viacheslav ar ôl, a dod i fyw yng Nghaerdydd.

Ers hynny mae Diana, a oedd yn athrawes ysgol gynradd yn Wcráin, wedi bod yn gweithio’n ddiflino i gefnogi ffoaduriaid eraill ar ôl i grŵp WhatsApp a greodd ar gyfer ei chyd-Wcrainiaid sy’n byw yn y DU ei harwain at weithio gyda darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru, ACT.

Yn dilyn cyfarfod siawns gyda staff ACT mewn rhaglen allgymorth gymunedol, mae Diana bellach yn gweithio fel Hyfforddwr Dysgu yn cefnogi Wcrainiaid ifanc i addasu i fywyd yn y DU ac archwilio cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith sydd ar gael iddynt drwy raglen TSC+ Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Diana: “Roeddwn i’n gweithio fel cyfieithydd i bobl ifanc Wcrainaidd a oedd yn mynychu rhaglen allgymorth i ddarganfod beth oedd eu camau nesaf er mwyn dod o hyd i gyfleoedd addysg a gwaith yma yng Nghymru, pan gwrddais â rhai o staff ACT.

Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ni i gyd, ond dwi hefyd yn credu y dylai fod yn amser creu cyfle ac i ddangos gwahanol ddiwylliannau i’n pobl ifanc yn Wcráin a gwella eu sgiliau iaith hefyd.

“Mae hi wedi bod yn wirioneddol wych gallu gwneud rhywbeth cynhyrchiol gyda fy amser yma a dod o hyd i rôl sy’n fy ngalluogi i ddefnyddio fy sgiliau mewn ffordd mor briodol ac effeithiol, a gallu cyfrannu’n ymarferol at fywydau pobl eraill sy’n byw’r un profiad o’m cwmpas ” ychwanegodd Diana.

Mae Diana yn cefnogi’r bobl ifanc y mae’n gweithio gyda nhw mewn amryw o ffyrdd y tu mewn a’r tu allan i’w rôl fel Hyfforddwr Dysgu gydag ACT. Mae hi’n sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau sylfaenol sydd eu hangen arnynt a’u teuluoedd gan gynnwys lloches a bwyd, eu cysylltu ag Wcrainiaid eraill a’u cefnogi wrth ymuno â grwpiau yn y gymuned a chyfarfodydd er mwyn cymhathu a chreu rhwydweithiau cefnogol i’w teuluoedd.

Mae hi hefyd yn cyfieithu ar eu cyfer ac yn helpu i lenwi ffurflenni pan fo angen hefyd, yn ogystal â mynd gyda nhw ar weithgareddau cyfoethogi i’w helpu i ddysgu mwy am ddiwylliant Cymru a bywyd y DU yn gyffredinol.

Dywedodd Leon Patnett, Pennaeth Rhaglenni Ieuenctid ACT: “Ers cyrraedd y Deyrnas Unedig, mae Diana wedi gweithio’n ddi-baid i gefnogi Wcrainiaid eraill wrth iddynt addasu i fywyd yma yng Nghymru gan weithredu fel pont i lawer o deuluoedd sy’n cael cymorth y trydydd sector drwy gyfieithu ar eu rhan i sicrhau eu bod yn cael y cymorth hanfodol y maent ei angen

“Mae hi’n gwirfoddoli yn anhunanol i gefnogi eraill tra’n gweithio’n llawn amser yn ACT a chefnogi ei mab ifanc heb ei gŵr wrth ei hochr, ac mae’n bositif a phenderfynol yn ei hagwedd yn ddi-baid wrth wneud hynny.”

“Mae ei phrofiad fel athrawes a sylfaenydd ei hysgol Saesneg ei hun nôl yn Wcráin yn ei gwneud hi’n berffaith ar gyfer y gwaith mae’n ei wneud yma yn ACT yn cefnogi’r bobl ifanc y mae hi’n gweithio gyda nhw. Mae’r angerdd sydd ganddi dros gefnogi eraill yn hollol ysbrydoledig. Rydym yn teimlo ein bod wedi’n bendithio’n llwyr fel tîm i fod wedi cysylltu â Diana, ac i fod yn rhan o’i phrofiad yma yn y DU. Mae’r bobl ifanc a’r cydweithwyr yr ydym yn gweithio gyda nhw yma yn parhau i gael eu cyfoethogi gan ei phresenoldeb fel aelod o dîm ACT,” ychwanegodd Leon.

Mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed, a ddarperir gan ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru, sy’n eu helpu i feithrin y sgiliau, y cymwysterau, a’r profiad er mwyn cael swydd neu dderbyn hyfforddiant pellach. O ddeall nad yw pawb yr un fath, mae JGW+ yn gwbl unigryw ac wedi ei deilwra i gyd-fynd ag anghenion y dysgwr unigol. Gyda thîm ymroddedig o Diwtoriaid, Hyfforddwyr Dysgu, Cwnsleriaid, Cynorthwywyr Cymorth, ac Anogwyr Byd Gwaith, mae ACT yn cynllunio taith ddysgu unigryw ar gyfer anghenion pob dysgwr.

Fel rhan o’u rhaglen TSC+, mae pobl ifanc o’r Wcráin wedi derbyn cefnogaeth mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys derbyn gwersi Saesneg gan elusen Oasis o Gaerdydd, sy’n gweithio i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bob cefndir i integreiddio â’u cymunedau lleol.

I gael gwybod mwy am ACT a rhaglen TSC+, ewch i Twf Swyddi Cymru+

Rhannwch