16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr

Mae’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd bob amser yn troi at Jayne Williams i annog pobl i wmeud prentisiaethau, diolch i’w brwdfrydedd dros ddysgu a datblygu.

Maen nhw’n cyfeirio pobl ati hi – y cyntaf o weithwyr y Gwasanaeth i wneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad, gan y darparwr hyfforddiant ACT.

Fodd bynnag, nid dyna yw diwedd taith ddysgu Jayne. Yn awr, mae’n awyddus i wneud cymhwyster gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu neu Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Dysgu a Datblygu.

I gydnabod ei thaith ddysgu lwyddiannus, cafodd Jayne ei henwi’n Brentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022 neithiwr. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.

Mae swydd Jayne, 58, o Gasnewydd, fel clerc llys wedi’i ehangu i gynnwys hyfforddi staff, mentora, hwyluso a chyrsiau academi. Yn y flwyddyn ddiwethaf, a hithau’n cwblhau ei Phrentisiaeth Uwch, helpodd i hyfforddi 690 o gydweithwyr y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd drwy weithdai ar-lein ac mae wedi cael cynnig nifer o wahanol swyddi o fewn y gwasanaeth.

Bu’n ffilmio fideo am ei thaith ddysgu ac mae’n cynnal sesiynau holi ac ateb byw ar-lein i hyrwyddo prentisiaethau.

Gan ddilyn yn ôl traed ei mam-gu a gafodd ei Lefel ‘O’ gyntaf yn 65 oed, mae Jayne bellach yn hyfforddi’r holl glercod llys newydd a swyddogion uwch, ac yn ysbrydoli cydweithwyr i wneud prentisiaethau, yng Nghymru a ledled Lloegr.

Dywed fod pasio’i chymhwyster Sgiliau Hanfodol Mathemateg ar y trydydd cynnig wedi rhoi hwb enfawr i’w hyder a’i bod hi bellach yn mentora cydweithwyr.

Fel rhan o’i Phrentisiaeth Uwch, mwynhaodd secondiad chwe mis mewn prosiect hyfforddi a hwyluso oedd yn cael ei dreialu. Bu mor llwyddiannus nes i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd gyflogi swyddog parhaol cymorth dysgu.

Mae fy mhrentisiaeth wedi dod â llawer o sylw i mi yn y Gwasanaeth wrth i mi ddarparu hyfforddiant a helpu eraill i ddatblygu,” meddai Jayne. “Maen nhw’n troi ataf i i hyrwyddo prentisiaethau. Rydw i mor angerddol am ddysgu a datblygu fel bod arnaf eisiau i bawb arall wybod a dod ag amlygrwydd i Gymru.

“Mae’r Gwasanaeth wedi elwa’n eithriadol gan fy mod i wedi gwneud y Brentisiaeth Uwch ac mae wedi agor llawer o ddrysau i mi. Dyna’r peth gorau a wnes i erioed.””

Dywedodd Louise Vernall, rheolwr cyflawni y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd: “Mae Jayne bob amser yn ysbrydoli pobl eraill ac yn ennyn eu diddordeb, gan ddangos sgiliau hyfforddi gwych a dawn naturiol. Mae’n ychwanegiad gwych at fy nhîm ac mae ei chyfraniad yn werthfawr iawn.”

Wrth longyfarch Jayne a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.

“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel. Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.”

Rhannwch