16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr

Y Cyfrifydd Rheoli Siartredig ieuengaf yn y byd

Mae Grace Bayton, 20 oed, o Abertyleri wastad wedi awchu am wybodaeth, ac yn awyddus i ddysgu. Mae ei gallu a’i huchelgais academaidd wedi talu ar ei ganfed wrth iddi dderbyn teitl anghredadwy ‘y Cyfrifydd Siartredig ieuengaf yn y Byd’ gan Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) – y corff cyfrifeg rheoli proffesiynol byd-eang.

Sylwyd ar alluoedd academaidd Grace yn gynnar pan enillodd y canlyniadau uchaf ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod ei hamser yn Ysgol Uwchradd Trecelyn. Er iddi gael cynnig ysgoloriaeth i ddau goleg preifat o fri yng Nghaerdydd, gwrthododd Grace y cyfleoedd o blaid aros gyda’i ffrindiau mewn coleg lleol. Fodd bynnag, buan iawn y daeth pwysau perfformio yn ormod i Grace a daeth yn ansicr o beth ddylai ei chamau nesaf fod.

“Ro’n i’n teimlo bod llawer iawn o bwysau yn cael ei roi arna i i berfformio’n dda a doeddwn i ddim eisiau hynny rhagor. Roedd gen i ddigon o bobl yn dweud wrtha’i ‘mae’n rhaid i ti wneud yn dda’.

Tra’n astudio ei Bagloriaeth Cymraeg (Y Bacc), rhaglen a luniwyd i ddarparu profiadau ehangach, byd go iawn i bobl ifanc y tu allan i’r ysgol, dechreuodd Grace gwestiynu ai Prifysgol oedd y llwybr gorau iddi hi.

Ro’n i wrth fy modd gyda mathemateg ond fe wnaeth Y Bacc wneud i mi gwestiynu beth fyddwn i’n ei wneud nesaf petawn i’n cael gradd Mathemateg. Ro’n i’n gwybod nad o’n i eisiau dysgu ar ei ddiwedd felly do’n i ddim yn awyddus i fynd i ddyled myfyrwyr heb unrhyw yrfa amlwg ar ei ddiwedd, felly dyna pryd y dechreuais archwilio cyfrifeg ac edrych ar y gwahanol lwybrau i mewn iddo. Gwelais hysbyseb am brentisiaeth cyfrifeg gydag ACT a sylweddolais mai dyna o’n i eisiau gwneud.

Dechreuodd Grace brentisiaeth gyda busnes lleol yng Nghwmbrân, lle’r oedd yn dilyn ei chymhwyster Lefel 2 a Lefel 3 Cymdeithas Technegwyr Cyfrifeg (AAT) gydag ACT. Galluogodd y brentisiaeth i Grace ennill a dysgu wrth astudio cymhwyster galwedigaethol ymarferol, gan arwain at yrfa cyfrifo a chyllid llwyddiannus.

“Pan sylweddolais nad oedd angen i mi gael gradd o reidrwydd i ddechrau fy nhaith i gymwysterau cyfrifeg roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi dod o hyd i’r llwybr cywir. Roedd teulu a ffrindiau yn ofni mod i’n gwneud camgymeriad ond roeddwn i wir eisiau ennill a chael profiad bywyd.  Es i mewn i ACT unwaith yr wythnos i wneud fy hyfforddiant AAT ochr yn ochr â gweithio ac roeddwn i wrth fy modd ac wedi gwneud ffrindiau gwych. Roedd fy nhiwtoriaid yn ACT yn anhygoel ac roeddwn i’n teimlo cymaint o gefnogaeth.”

Ar ôl cwblhau ei chymhwyster Lefel 3 AAT, tarodd y pandemig a defnyddiodd Grace yr amser i ddechrau astudio ar gyfer ei chymhwyster Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) i ddod yn gyfrifydd siartredig.

“Prynais lyfr CIMA ac yn y bôn fe astudiais bopeth ynddo ac yna mynd a gwneud arholiad bob mis. Gan fy mod yn ennill cymwysterau, ro’n i hefyd yn gwybod bod fy ngwerth yn cynyddu yn y farchnad lafur, felly newidiais swyddi a pharhau i gael mwy o brofiad ac ennill mwy.”

Yr amser cyfartalog i gwblhau’r cymhwyster CIMA yw 4 blynedd ond gorffennodd Grace mewn 2 ac mae bellach yn cael ei chydnabod fel y Cyfrifydd Rheoli Siartredig ieuengaf yn y byd. Ar hyn o bryd mae’n gweithio i’r Sefydliad Ffiseg ym Mryste a diolch i’w chymhwyster mae’n gallu hawlio cyflog llawer uwch na’r incwm cyfartalog. Er ond yn 20 mlwydd oed mae hi eisoes yn berchen ar ei chartref ei hun ac yn edrych i brynu un arall.

Mae Grace yn awyddus i ledaenu’r gair am werth prentisiaethau a chodi ymwybyddiaeth nad prifysgol yw’r unig lwybr at lwyddiant mewn gyrfa.

“Mae prifysgol yn brofiad gwych i lawer o bobl ond nid dyna’r unig ffordd.  Gallwch hefyd wneud rhywbeth academaidd iawn fel cyfrifeg heb o reidrwydd ddilyn llwybr gradd. I unrhyw un sydd am newid gyrfa, dim ots pa oedran, dwi’n meddwl y dylen nhw ystyried prentisiaeth – yn enwedig gan eu bod nhw’n cael eu hariannu gan Gymru.”

Gyda’r byd cyfrifeg wrth ei thraed mor ifanc, mae gan Grace amrywiaeth anhygoel o lwybrau posib i’w dilyn yn y dyfodol. Er hynny, un peth mae hi’n ei wybod yn sicr yw ei bod hi’n feistr ar ei thynged ei hun. 

“Bod yn hapus yw’r peth pwysicaf i fi. Yn y dyfodol, byddwn i wrth fy modd yn dechrau rhywbeth fy hun, cwmni cyfrifeg efallai, ond fel y ‘cyfrifydd siartredig ieuengaf yn y byd’ pwy a ŵyr pa gynigion fydd yn dod fy ffordd.” 

Rhannwch