16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr Newyddion

Cipiodd dysgwr Twf Swyddi Cymru+ ACT, Kavan Cox, y wobr arian yn y categori Sgiliau Sylfaen: Datrysiadau meddalwedd TG ar gyfer Busnes yn rownd derfynol Genedlaethol WorldSkills 2022 eleni.

Mae WorldSkills yn cefnogi pobl ifanc ar draws y byd drwy hyfforddiant, asesu a meincnodi wedi seilio ar gystadlu gydag aelodau timau cenedlaethol yn profi eu gallu i gyflawni safonau o’r radd flaenaf yn y ‘gemau Olympaidd sgiliau’ sy’n cael eu cynnal bob dwy flynedd. Fe wnaeth dros 500 o fyfyrwyr ifanc a phrentisiaid gymryd rhan mewn rowndiau terfynol mewn dros 60 o ddisgyblaethau a gynhaliwyd mewn saith lleoliad ledled y DU. Cyhoeddwyd canlyniadau’r rowndiau terfynol ddydd Gwener 25 Tachwedd 2022 mewn seremoni ar-lein fyw a gynhaliwyd gan Steph McGovern o stiwdio ‘Packed Lunch’ Sianel 4.

Mae Kavan Cox, 19, yn un o’r bobl hynny sy’n goleuo’r ystafell pan fyddwch chi’n siarad â fe. Gyda’i chwerthiniad heintus, taranllyd a’i synnwyr digrifwch drygionus, mae ei bresenoldeb croesawgar yn eich gwneud chi’n gartrefol ar unwaith. Nid fel hyn y bu hi erioed i Kavan serch hynny. Yn anffodus, gadawodd ei brofiad ysgol e’n fewnblyg, yn bryderus ac yn amau ei allu.

“Roedd yr ysgol yn anodd iawn i fi. Roeddwn i’n teimlo bod yr athrawon yn awdurdodol iawn ac roedd llawer o fwlio yn digwydd ymhlith myfyrwyr. Awgrymodd cwnselydd yn yr ysgol fy mod i’n cysylltu ag ACT gan eu bod yn teimlo y byddai’n ffit da i fi. Mae dysgu ac ennill yn fonws enfawr i fi, felly pan sylweddolais y byddwn i’n cael fy nhalu am fynychu hefyd, roeddwn i wrth fy modd. ”

Ar hyn o bryd mae Kavan yn astudio Gwasanaethau Busnes ar Linyn Hyrwyddo’r Rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+); rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed sy’n eu helpu i feithrin y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i gael swydd neu ddechrau hyfforddiant pellach. Gan ddeall nad yw pob person yr un fath, mae’r rhaglen TSC+ yn gwbl unigryw ac wedi ei theilwra i gyd-fynd ag anghenion y dysgwr unigol.

Yn ogystal â dysgu sgiliau gwerthfawr, mae ACT hefyd yn cyflwyno Diwrnodau Cyfoethogi i ddysgwyr fel rhan o’r rhaglen TSC+. Bwriad Diwrnodau Cyfoethogi yw galluogi i bobl ifanc brofi amgylcheddau a sefyllfaoedd unigryw, er mwyn magu hyder.

“Dwi wrth fy modd gyda’r dyddiau Cyfoethogi! I fod yn onest, dydy ymarfer corff ddim fel arfer at fy nant ond dwi’n caru anifeiliaid ac fe fydda i’n rhoi cynnig ar unrhyw beth, felly roeddwn i’n arbennig wrth fy modd gyda’n hymweliad â Fferm Jamie. Cefais fwy o ddealltwriaeth o sut y mae pobl yn gweithio ar y cyd ac roedd yn anhygoel gweld pa mor wahanol gall bywydau pobl eraill fod i gymharu â fi. Aethon ni i’r Barri yn ddiweddar hefyd i gynorthwyo gyda glanhau’r traeth, oedd yn wych. Rydyn ni wedi bod i’r Pwll Mawr, Sain Fagan ac rydyn ni hyd yn oed wedi cael Diwrnod Chwaraeon yn Ynys Hywel hefyd. Rydyn ni’n dysgu llawer ac yn cael mynediad at gyfleoedd na fydden ni o reidrwydd yn gallu cael yn yr ysgol.”

Er ei fod wedi bod gydag ACT am flwyddyn yn unig, mae trawsnewidiad Kavan wedi bod yn rhyfeddol. Mae ei hyder wedi codi’n aruthrol sydd wedi ei hybu i herio ei hun i gystadlu mewn cystadlaethau sgiliau. Yn ogystal ag ennill gwobr arian yng Nghystadleuaeth World Skills 2022, enillodd Kavan y Wobr Aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2021/2022 am ei berfformiad yn y Categori Lefel Gwasanaeth Cwsmeriaid. Mae’n ffyddiog bod ei lwyddiant oherwydd yr hyder a’r sgiliau y mae wedi’u hennill ers ymuno ag ACT.

Mae fy sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu wedi datblygu’n aruthrol ers i mi ddechrau yn ACT. Mae’n bendant wedi fy ngwneud i’n llawer mwy ymwybodol yn gymdeithasol. Fel rhan o TSC+ rydyn ni’n dysgu llawer am gyfathrebu gyda chwsmeriaid. Popeth o ymddygiad proffesiynol i sut i gyfeirio sylw cwsmeriaid at nwyddau. Dwi ‘di dysgu sgiliau gwerthfawr iawn am sut i ymddwyn yn y gweithle.

Mae Kavan unwaith eto’n teimlo’n gyffrous am ei ddyfodol a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddo. Doedd e ddim yn siŵr beth oedd ei ragolygon ar ôl gadael yr ysgol, ond nawr mae’n gobeithio gweithio mewn amgueddfa rhywbryd a dilyn ei angerdd am hanes. Mae ei flwyddyn gydag ACT wedi gwneud iddo sylweddoli bod unrhyw beth yn bosib!

“Ro’n i mor nerfus yn ymuno ag ACT ar y dechrau, yn enwedig ar ôl fy mhrofiad yn yr ysgol, ond ers i mi ddechrau’r rhaglen TSC+ rwy’n gymaint mwy hyderus. Dwi’n teimlo mod i nôl at fel oeddwn i cyn i mi gael fy mwlio. Dwi wedi dod yn berson calonnog, ‘gallu gwneud’ eto. Mae ACT wir yn ofod diogel i bobl ifanc ddysgu a thyfu. ”

Os nad ydych yn siŵr o’ch camau nesaf ar ôl ysgol ond yn hoffi’r syniad o brofiad dysgu unigryw wedi’i deilwra i’ch anghenion, yna cysylltwch â’n tîm heddiw.

info@acttraining.org.uk
029 2270 7070

Rhannwch