16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr Newyddion

Arweiniodd y pandemig at bobl ar draws y byd i fanteisio ar y cyfle i ymgymryd â heriau newydd. Roedd Charlotte Peacock, 40, yn un o’r bobl hynny!

Penderfynodd ddechrau ar brentisiaeth Marchnata Digidol, gan gredu y gallai gryfhau ei gallu meddyliol a busnes ar yr un pryd!  

“Roedd ar frig y pandemig a ro’n i angen rhywbeth ar gyfer fy ymennydd. Troi’n 40 oedd yr ysgogiad i wneud hynny. I fi, roedd y cymhwyster yn ticio llawer o focsys. Mae o fudd i fy musnes ac mae’n cael ei ariannu’n llawn hefyd, felly roedd e’n ‘no-brainer’!” 

Creodd Charlotte ei busnes Twin Made, nôl yn 2010 yn dysgu gweithdai crefft greadigol yng Nghaerdydd a Llundain a’r cyffiniau ar ôl sylwi ar fwlch yn y farchnad.  Ers hynny, mae’r busnes wedi esblygu a thyfu i gwmpasu citiau creu eich hun, siop ar-lein yn ogystal â llu o gydweithrediadau cyffrous. Gyda’r rhan fwyaf o’i gwerthiant yn cael ei gynhyrchu ar-lein, roedd Charlotte yn awyddus i fanteisio ar ei gwybodaeth bresennol a chynyddu presenoldeb ei brandiau ymhellach.   

Mae llawer o fy musnes yn cael ei gynhyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol felly mae’r cymhwyster Marchnata Digidol wedi fy helpu yn fawr! Erbyn hyn, rwy’n gwneud postiadau siopadwy, ymunais â TikTok ac rwy’n cadw fy holl gyfryngau cymdeithasol fel Facebook ac Instagram yn gyfredol. Mae’n boncyrs pan mae pobl yn dod ata’i a dweud “Dw i’n dy nabod di o’r we!”

Mae’r brentisiaeth Marchnata Digidol yn dysgu’r pynciau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer marchnata i ddysgwyr. O Reoli Prosiectau, strategaethau marchnata a chysyniadau busnes hyd at ddatblygu sgiliau technoleg ddigidol i wella presenoldeb ar-lein er mwyn denu cynulleidfa darged. Mae Charlotte wedi gallu gweithredu’r wybodaeth i adeiladu ar lwyddiant Twin Made. 

“Rwy’n teimlo bod y cymhwyster wedi gwneud i mi wella bob rhan o fy musnes gan ei fod yn cwmpasu popeth sydd angen i mi ei wybod ac yn cysylltu’n uniongyrchol â fy anghenion busnes. Weithiau mae’n hawdd dal ati i wneud yr un hen bethau a pheidio cymryd amser i fyfyrio a meddwl beth sy’n mynd yn dda yn y busnes neu beth sydd ddim yn gweithio’n dda. Mae’r brentisiaeth Marchnata Digidol yn wirioneddol wych am werthuso pob agwedd ar eich busnes.”  

Ar ôl bod allan o addysg am flynyddoedd lawer, mae Charlotte yn dweud bod y gefnogaeth a gafodd, yn broffesiynol ac yn bersonol gan ACT, wedi helpu’n aruthrol ar ei thaith fel dysgwr.  

“Dwi wir yn gwerthfawrogi’r cyfarfodydd cefnogi dwi’n cael gan ACT. Yn ystod y pandemig roedden nhw’n rhaff achub go iawn. Roedd cael rhywun i dawelu fy meddwl a chynnig help ac atebion i rai o’r problemau roeddwn i’n wynebu yn fy musnes yn wych. Os o’n i’n gweithio ar rywbeth a ddim yn siŵr os o’n i ar y trywydd iawn, o’n i’n gallu estyn allan a chael adborth. Mae’r cymhwyster yn wirioneddol hyblyg hefyd fel y gallwch ei ffitio o amgylch eich anghenion asesu.” 

Ers dechrau’r brentisiaeth, mae presenoldeb cyfryngau cymdeithasol Twin Made wedi mynd o nerth i nerth, gan greu cyfleoedd newydd i’w busnes. Yn ddiweddar, cysylltwyd â  Charlotte i grosio siwmper a gwregys teitl ar gyfer World Wrestling Entertainment (WWE) a arweiniodd at ymddangosiad ar Channel 5 a BBC. Wrth siarad am sut mae’r brentisiaeth wedi bod o fudd i’w busnes, ychwanega Charlotte: 

“Mae’r brentisiaeth wedi gweithio’n dda iawn i mi oherwydd mae’r cyfan yn cysylltu â’m busnes mewn capasiti mwy swyddogol, effeithlon. Mae’r manteision yn enfawr! Byddwn i’n argymell y cymhwyster i bobl eraill yn fawr.” 

Mae’r brentisiaeth hefyd wedi arwain Charlotte i ystyried pa gymwysterau eraill sydd ar gael a allai fod o fudd i’w busnes yn y dyfodol. Am y tro, er hynny, mae hi’n hapus i barhau i weithredu’r wybodaeth y mae hi wedi’i dysgu hyd yn hyn ac i rannu’r doethineb hwnnw gyda pherchnogion busnesau bach eraill.  

“Mae’r brentisiaeth Marchnata Digidol wedi bod yn dda iawn i fi. Dwi mor falch mod i wedi ei gwneud. Mae wedi rhoi’r hyder i mi gamu i mewn a helpu pobl a busnesau eraill gyda’u cynnwys nhw hefyd. Mae’n braf iawn gallu rhannu fy nysgu gydag eraill.” 

Os ydych chi eisiau dysgu rhagor am ein cymhwyster Lefel 4 Marchnata Digidol a sut y gall fod o fudd i’ch busnes chi ewch yma 

Rhannwch