16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr Newyddion

Roedd cymaint o bobl yn drysu pan roeddwn i’n dweud fy mod i’n gwneud Prentisiaeth. Doedd gyda nhw ddim syniad bod llawer o’r cymwysterau ar gael at lefel gradd.”

Meddai Lucy Day, Rheolwr Busnes Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymddiriedolaeth sy’n gweithio i ddiogelu a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru. 

Mae llawer o gamddealltwriaeth ynglŷn â phrentisiaethau. Mae’r term yn aml yn dwyn i gof pobl ifanc sy’n dysgu crefft neu lwybr amgen i bobl oedd yn ei chael hi’n anodd yn yr ysgol. Mae’r myth yma’n bell o fod yn wir! Mae prentisiaethau’n opsiwn ymarferol a chlyfar i unrhyw un o unrhyw oedran mewn ystod o rolau swydd sy’n ceisio uwchsgilio yn y gweithle. O gymwysterau mewn Rheoli Busnes, Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol i Wasanaeth Cwsmeriaid a Chyfrifeg – mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd! 

Gan ei bod eisoes wedi ymgymryd â dwy brentisiaeth er mwyn cefnogi ei datblygiad gyrfa, mae Lucy, 47, o’r Eglwys Newydd, Caerdydd, yn gwybod hyn yn iawn. Gyda dros 15 mlynedd o brofiad mewn Busnes a Rheoli Prosiectau, mae Lucy wedi ymgymryd â phrentisiaethau fel cyfle i ehangu ac adeiladu ar ei gwybodaeth ei hun. 

“Fe wnes i gychwyn ar brentisiaeth Rheoli Prosiect yn 2020 ac roedd yn hynod fuddiol er mwyn adeiladu fy sgiliau a fy natblygiad personol. Yn ystod y pandemig roeddwn yn awyddus i uwchsgilio ymhellach a dechreuais edrych ar ba opsiynau eraill oedd ar gael. Gwelais y cymhwyster Lefel 4 Gweinyddu Busnes ac roeddwn i’n hoff iawn o sŵn y peth gan ei fod yn cyd-fynd yn dda â fy rôl bresennol.” 

Mae Diploma Lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes yn brentisiaeth ddelfrydol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd reoli sydd â phrofiad o fewn y sector cyhoeddus neu’r sector breifat ac sydd eisiau datblygu hyn ymhellach. 

Yn ogystal â chael mwy o wybodaeth yn ei maes dewisol, mae prentisiaeth Lucy wedi ei galluogi i ennill cymwysterau a fydd yn ei chynorthwyo i ddilyn gyrfa yn y dyfodol. 

“Yn ogystal â chefnogi’r rôl rydw i ynddi ar hyn o bryd, rwyf hefyd yn ychwanegu sgiliau a fydd yn fuddiol mewn unrhyw rolau rwy’n dewis eu dilyn yn y dyfodol. Y fantais fwyaf i mi yw fy mod i’n ennill tra dwi’n dysgu. Mae’r cymhwyster yn cael ei ariannu’n llawn ac o ran y buddion i Iechyd Cyhoeddus, dwi wedi gallu defnyddio 

syniadau ac awgrymiadau gwych o fy nghymhwyster a rhoi’r rhain ar waith yn ein harferion gwaith.” 

Ychwanega Lucy, er bod prentisiaeth yn gofyn am ymrwymiad a’r gallu i reoli amser yn dda, roedd ACT yn hynod gefnogol i’r dysgwyr trwy gydol y cymhwyster. 

“Roedd fy aseswr yn ACT yn hollol wych – alla i ddim gweld unrhyw ddiffyg. Rwyf wedi cael llawer iawn o gefnogaeth ac roedd ACT yn ddeall yn iawn ac yn hyblyg o ran fy llwyth gwaith. Roedden nhw wir yn gweithio gyda mi i deilwra fy nhaith ddysgu i siwtio fy anghenion ac amserlen fy ngwaith.” 

Mae Lucy yn awyddus i siarad o blaid prentisiaethau gan ei bod yn teimlo eu bod yn ffordd gost-effeithiol o adeiladu eich sgiliau a’ch gwybodaeth, wrth ennill cymwysterau gwerthfawr a all ddatblygu eich gyrfa. Yn ogystal ag ychwanegu gwerth i’ch gweithle a’ch cyflogwr wrth i chi ehangu eich sgiliau, mae’r cymhwyster yn gyfle gwych i fagu hyder yn eich gallu eich hun. 

” Byddwn i’n bendant yn argymell prentisiaeth i bawb. Mae’n ffordd wych o ddysgu am y swydd ac mae’n cael ei ariannu’n llawn fel nad ydych chi’n talu ceiniog. Byddwn yn eu hargymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn eu datblygiad personol a’u dilyniant gyrfa. A bod yn onest, mae gwneud prentisiaeth yn benderfyniad syml!” 

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am ein cymhwyster Lefel 4 Gweinyddu Busnes a sut y gall fod o fudd i’ch busnes ewch yma 

Rhannwch