16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr

Ar ôl cael diagnosis o gyflwr llygaid dirywiol yn fuan ar ôl dod yn un o’r prentisiaid cyntaf erioed i ymuno â Chyngor Dinas Casnewydd, mae Carley Dowding yn gwybod mwy na’r rhan fwyaf faint mae prentisiaethau yn gallu newid bywyd person er gwell.

dyna oeddwn i eisiau gwneud yn y tymor hir,” eglura Carley, “Roeddwn i wedi gweithio ym maes lletygarwch a manwerthu ers fy arddegau cynnar, ond roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn symud i ffwrdd ohono gan nad oedd gen i brofiad perthnasol.”

Yn 21 oed, dechreuodd Carley chwilio am Brentisiaethau yn ei thref enedigol, Casnewydd, gan wneud cais am gymhwyster Lefel 2 Gweinyddu Busnes un flynedd a dod yn un o brentisiaid cyntaf erioed Cyngor y Ddinas yn y broses.

“Roedd bod yn un o’r prentisiaid cyntaf yn gyffrous iawn, roedd yn brofiad newydd i’r prentisiaid, y timau y cawsom ni ein rhoi ynddyn nhw, a Chyngor Dinas Casnewydd yn gyffredinol,” meddai Carley. “Roedd yr ymdrech ac amser aeth i mewn i’n hyfforddi ni a sicrhau bod gennym bopeth oedd ei angen arnom i barhau ar ein llwybrau gyrfa yn anhygoel.”

“Mae hi hefyd wedi bod yn daith ryfedd i mi fodd bynnag, gan fy mod ers fy Mhrentisiaeth wedi cael diagnosis o gyflwr dirywiol sy’n effeithio ar fy ngolwg. Oherwydd hyn,  rwyf wedi fy nghofrestru’n ddall ers hynny , felly rwy’n lwcus iawn fy mod wedi derbyn cefnogaeth barhaus gan gydweithwyr, rheolwyr ac Adnoddau Dynol i weithio o amgylch hyn a dod o hyd i ffyrdd o weithio sy’n addas i mi hefyd.”

Wedi’i leoli yn yr adran Addysg, roedd Prentisiaeth Carley yn cynnwys cefnogi’r tîm Integreiddio Blynyddoedd Cynnar drwy reoli calendrau, archebu a mynychu cyfarfodydd, cwblhau ffeilio digidol a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer partneriaid a lleoliadau meithrin. Cafodd ymweld hefyd â lleoliadau blynyddoedd cynnar a mynychu cyfarfodydd panel, gan roi dealltwriaeth uniongyrchol iddi o nodau ac amcanion y tîm hefyd.

Roedd hynny bum mlynedd yn ôl, ac mae Carley wedi bod yng nghyflogaeth Cyngor Dinas Casnewydd ers hynny, yn gweithio fel Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid, Swyddog Cymorth Ysgol, Gweinyddwr gyda’r Uned Amddiffyn Plant, ac ar hyn o bryd fel Swyddog Cefnogi Busnes gyda’r tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).

Mae’r Brentisiaeth wedi agor cymaint o ddrysau i mi ac mae wedi fy ngosod ar lwybr gyrfa rwy’n ei fwynhau’n fawr

“Fy amcanion ar gyfer y dyfodol nawr yw parhau â fy nhaith gyrfa o fewn Cyngor Dinas Casnewydd, ble bynnag y gallai hynny arwain, a pharhau i addasu i fywyd gwaith gyda fy nghyflwr.”

“Byddwn yn argymell Prentisiaeth yn llwyr a fy nghyngor i bobl ifanc sy’n ystyried y llwybr hwn yw ei fod yn wirioneddol amhrisiadwy. I mi, roedd yn gydbwysedd perffaith o brofiad yn y gwaith a dysgu Prentisiaeth.”

Os ydych chi eisiau darganfod mwy am gyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ewch yma

Rhannwch