16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr Newyddion

Mae cymhwyster arloesol newydd, sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r materion sy’n wynebu dysgwyr ifanc, wedi dathlu’r myfyrwyr cyntaf i’w gwblhau.

Cyrhaeddodd y cymhwyster ‘Hunanddatblygiad a Lles’, a grëwyd ar y cyd gan CBAC a darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymru, ACT, y garreg filltir anhygoel hon yn gynharach yn yr wythnos, gyda’i ddysgwyr cyntaf yn cwblhau’r rhaglen yn swyddogol.

Cynhaliwyd digwyddiad dathlu arbennig i anrhydeddu cyflawniadau’r dysgwyr gyda chynrychiolwyr o CBAC ac ACT yn bresennol gan gynnwys Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Prif Weithredwr CBAC, Ian Morgan, a chyn arwr rygbi Cymru a Llysgennad Sgiliau ACT, Jonathan Davies.

Y cymhwyster Hunanddatblygiad a Lles yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer ACT a CBAC ac mae’n canolbwyntio ar bynciau y mae dysgwyr ifanc yn debygol o’u hwynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd, o faterion fel hunaniaeth bersonol a hylendid i iechyd rhywiol a rheoli arian.

Cafodd ei greu dros gyfnod o ddwy flynedd, ac fe’i llywiwyd i raddau helaeth gan brofiadau dysgwyr sy’n dilyn rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+). Wedi’i chyflwyno gan ACT, mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed sy’n eu helpu i ennill y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i gael swydd neu fynd ymlaen at hyfforddiant pellach.

Wrth siarad am y cyflawniad, dywedodd Lewis Bowden, Rheolwr Gweithredol TSC+:

“Pan lansiwyd y cymhwyster, hwn oedd y cyntaf o’i fath, yn cynnig mewnwelediad pwysig i bynciau sy’n effeithio’n uniongyrchol ac yn bersonol ar ein dysgwyr. Rydym wedi gweld y grŵp cyntaf o fyfyrwyr yn magu hyder drwy gydol y rhaglen ac rydym yn gobeithio y byddant yn parhau i ddefnyddio’r sgiliau pwysig a ddysgwyd yn ystod eu gyrfaoedd a thu hwnt.”

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC hefyd: “Llongyfarchiadau i’r dysgwyr ar gwblhau’r cymhwyster newydd arloesol hwn. Fel corff dyfarnu mwyaf blaenllaw Cymru, rydym yn angerddol am roi cyfleoedd i ddysgwyr ledled Cymru gyrraedd eu potensial ond rydym yn deall nad yw pob dysgwr yn dilyn yr un llwybr addysg.

“Mae’r cymhwyster newydd hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn gan ei fod yn darparu llwybr amgen i gyflogaeth.

“Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan ACT wrth greu a chyflwyno’r cymhwyster unigryw a gafaelgar hwn sy’n cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ac yn rhoi’r sgiliau iddynt symud ymlaen yn y gweithle.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, a oedd hefyd yn bresennol yn y Dathliad Lles: “Yn ACT, ein nod yw gwella bywydau trwy ddysgu a dyna’n union bwrpas y cymhwyster newydd cyffrous hwn. Mae’n arfogi unigolion ifanc â’r sgiliau bywyd hanfodol, yr hunanymwybyddiaeth a’r gwytnwch sydd eu hangen i lywio’r heriau y gallent ddod ar eu traws yn eu bywydau personol a phroffesiynol.

“Rydym yn hynod falch o gydnabod a llongyfarch y garfan gyntaf o ddysgwyr sydd wedi rhagori yn y cymhwyster arloesol hwn. Mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad i dwf a lles personol wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig a hoffwn eu llongyfarch i gyd. Hoffwn hefyd estyn fy ngwerthfawrogiad diffuant i CBAC am eu cydweithrediad amhrisiadwy wrth ddatblygu’r cymhwyster hwn. Gyda’n gilydd, rydym wedi creu cwricwlwm a fydd yn helpu ein dysgwyr i fyw bywydau llawn a gwneud cyfraniadau cadarnhaol i’w cymunedau.

“Mae’r digwyddiad dathlu yn dyst i waith caled a phenderfyniad ein dysgwyr, yn ogystal ag ymrwymiad a brwdfrydedd diflino fy nghydweithwyr gwych yn ACT.”

Rhannwch