16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Cwmni Newyddion

Nid gwytnwch ariannol neu gaffael y dalent gorau yn unig fydd yn diogelu eich busnes at y dyfodol, mae mwy o bwyslais bellach ar reoli effaith amgylcheddol busnes. 

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hail gynllun Cymru Sero Net sy’n pwysleisio y bydd addysg ac uwchsgilio yn ffactorau allweddol bydd eu hangen i gyflawni sero net erbyn 2050. 

Yn ymarferol, beth mae hyn yn ei olygu yw y bydd yr angen i reoli eu hôl troed carbon eu hunain yn dod yn broses graidd i gyflogwyr ledled Cymru.  

Dyma pam mae ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu cymhwyster newydd sbon a fydd yn helpu busnesau ddod i’r afael a’r her sero net hon.  

Yn ddiweddar, mae ACT wedi derbyn ardystiad safon rhyngwladol ISO 14001 am ei system rheoli amgylcheddol ei hun. Ar hyn o bryd dyma’r unig ddarparwr hyfforddiant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i feddu ar y statws yma. 

O’r herwydd, mae’n ymwybodol o bwysigrwydd monitro gwastraff, ynni, dŵr, trafnidiaeth a charbon cwmni a’r hyn sydd angen gwneud er mwyn lleihau ei effaith amgylcheddol.  

Wrth symud ymlaen, bydd yn rhaid i gyflogwyr weithio’n gydwybodol er mwyn meithrin y sgiliau ychwanegol y bydd eu hangen arnynt i gefnogi eu staff i ddod yn fwy cynaliadwy. 

Ar lawr gwlad, bydd yn rhaid i hyn fod yn fwy nag enwebu cydweithiwr neu grŵp o gyd-weithwyr i wthio cynllun carbon niwtral, bydd yn golygu addysg a hyfforddiant ffurfiol hefyd.  

I helpu, lansiodd ACT ei Ddiploma Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon yn ddiweddar sy’n cefnogi pobl ym mhob math o sefydliadau ac ar bob lefel i reoli eu hôl troed carbon. 

Drwy gydol y cwrs, bydd dysgwyr yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau yng nghyd-destun rheoli ynni a charbon, o rwydweithio proffesiynol ac iechyd a diogelwch i ddatblygu perthnasoedd gwaith a chaffael ynni.  

Mae cwblhau’r rhaglen yn cynnig nifer o sgiliau trosglwyddadwy tra hefyd ganiatáu i’r ymgeisydd symud ymlaen i rolau rheoli ynni mwy arbenigol. 

Mae’r cymhwyster yn dod yn rhan o gyfres o gyrsiau a ddarperir gan ACT sy’n helpu i ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol ynglŷn â’r amgylchedd, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a sero net yn ogystal â sut maent yn berthnasol i ddyfodol sgiliau gwyrdd. 

Mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd yn gwrs e-ddysgu a gweithdy undydd sy’n rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r cymhelliant i’r cyfranogwyr wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gweithle, ac mae’n berffaith i sefydliadau sy’n gweithio tuag at weithredu system rheoli amgylcheddol. 

Mae ACT hefyd yn cynnig cymhwyster Lefel 4 gyda ffocws ar Reoli’r Amgylchedd sy’n cefnogi rheolwyr i ddeall eu cyfrifoldeb wrth gyflawni agenda Cymru sero net. 

Mae hyfforddiant sero net yn aml yn cael ei gysylltu â thechnoleg hybrid a pheirianneg, ond dim ond rhan o sut mae Cymru yn mynd i gyflawni’r uchelgais hon yw hynny. Bydd addysg hefyd yn hanfodol os am sicrhau bod dyfodol busnes yma yn fwy gwyrdd.  

Bydd yn rhaid i fusnesau a sefydliadau o bob maint, ac ym mhob sector, ddod yn fwy cyfarwydd ag archwilio eu rheolaeth ynni a charbon mewn modd mwy cyfannol, ac mae gwneud hyn yn effeithiol yn gofyn am wybodaeth ac arbenigedd. 

Gydag allyriadau byd-eang mor uchel ag y buont erioed, mae lleihau ein hôl troed carbon ym mhopeth a wnawn yn y cartref ac yn y gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig – ac mae cyflwyno’r mathau hyn o gymwysterau yn dangos yn glir bod y busnes o gyflawni sero net yn rhywbeth sydd bellach yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom.   

Darganfyddwch fwy am y cyrsiau a ariennir yn llawn yma. 

Rhannwch