16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr Newyddion

Mae yna lawer o gamsyniadau cyffredin ynglŷn â phrentisiaethau, o oedran a phrofiad pobl sy’n ymgymryd â nhw i’r pynciau sydd ar gael, ond mae prentisiaethau’n gallu bod yn opsiwn gwych i unrhyw un, waeth beth yw eich rôl swydd.

Enghraifft berffaith o hyn yw Kevin Hughes dysgwr NVQ Defnyddwyr TG lefel 3

Mae Kevin, 46, yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Swyddog Strydoedd Glanach. Yn ei waith o ddydd i ddydd mae’n delio â thipio anghyfreithlon, cerbydau wedi’u gadael a throseddau gwastraff masnachol.

Cofrestrodd Kevin yn wreiddiol ar y cwrs gan ei fod yn gweithio gydag amrywiaeth o feddalwedd gwahanol yn ei rôl, yn enwedig Office 365, ac roedd eisiau gwella ei ddealltwriaeth er mwyn cael y gorau ohonynt.

Mae’r brentisiaeth Defnyddwyr TG yn rhoi’r wybodaeth i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau digidol gyda ffocws ar systemau gweithle cyffredin fel Microsoft Office a Google Drive.

Mae’r cwrs yn cwmpasu gwella cynhyrchiant, deall potensial TG a datblygu effeithiolrwydd personol a thîm gan ddefnyddio TG.

“Roedd yn apelio ataf oherwydd roedd angen gwell dealltwriaeth o offer Office 365 i wneud fy ngwaith ac mi fyddai’n cael ei wneud yn fy oriau gwaith nid yn ystod fy mywyd cartref,” meddai Kevin.

“Yn ystod y brentisiaeth, rwyf wedi datblygu gwell dealltwriaeth o PowerPoint, Excel a Word, a’r hyn y gall pob un ohonynt ei greu. Rwyf hefyd wedi diogelu fy mhresenoldeb ar-lein a fy ngwybodaeth bersonol yn well.

Rydym wedi dechrau gwneud cyflwyniadau ysgol ar ailgylchu, yn ogystal â phrosiectau i helpu gwahanol ystadau tai ailgylchu a gwaredu sbwriel yn gywir. Rydyn ni’n defnyddio Excel yn helaeth i gyflwyno’r wybodaeth, felly rydw i bellach wedi gallu arwain gyda rhai o’r rhain oherwydd y sgiliau newydd rydw i wedi’u dysgu.”

Fe wnaeth y cwrs hefyd helpu Kevin gyda chyfweliad swydd gan fod un o’r unedau dan sylw yn ymwneud â PowerPoint. Roedd Kevin angen creu cyflwyniad ar gyfer y cyfweliad ac roedd yn gallu gwneud hynny gyda’i wybodaeth newydd. Bu’n llwyddiannus i gael y rôl sydd ganddo nawr, gan symud o Swyddog Addysg a Gorfodi Gwastraff i Swyddog Strydoedd Glanach.

Yn ystod y brentisiaeth, cafodd Kevin ei gefnogi gan Aseswr Ymarferydd Dysgu Digidol, Jolene Plant.

Meddai Kevin: “Roedd gweithio gyda Jolene yn bleser llwyr; Roedd hi mor amyneddgar gyda fi a threfnodd sesiynau ychwanegol er mwyn i mi allu dal i fyny.

“Roedd unrhyw waith oedd angen ei ailgyflwyno yn dod ‘nôl ataf cyn gynted â phosib felly fe lwyddais i gwblhau unedau ar amser.

“Cefais gefnogaeth gydag ymchwil ac offer dysgu i’m helpu. Mae hwn wedi bod yn brofiad dysgu gwych i mi ac mi fyddwn argymell ACT i unrhyw un.”

Ychwanegodd Jolene: “Rwy’ wedi mwynhau gweithio gyda Kevin yn fawr yn ystod ei gymhwyster. Mae wedi bod mor hyfryd gweld ei sgiliau’n datblygu ac roedd gwybod fy mod wedi rhoi help llaw i’w gefnogi i gyflawni ei nod terfynol yn wych.

“Roedd gan Kevin a minnau berthynas waith dda, roeddwn i’n onest iawn gydag e pan gymerais yr awenau fel ei asesydd ac rwy’n credu ei fod wedi gwerthfawrogi hyn. Roedd bob amser yn gwybod lle’r oedd a beth oedd angen ei wneud. Mewn ymateb gwnaeth Kevin lawer o ymdrech er mwyn cyflawni’r nod terfynol.

“Fe wnes i fwynhau ein cyfarfodydd yn fawr, yn ogystal â chanolbwyntio ar y cymhwyster, roedd hefyd yn hyfryd sgwrsio gyda Kevin am weithgareddau o ddydd i ddydd a chael sgyrsiau cyffredinol. Byddaf yn colli ein cyfarfodydd rheolaidd, ond rwy’n dymuno pob lwc i Kevin ar gyfer y dyfodol a, gobeithio, efallai y caf gyfle i weithio gyda fe eto.”

Rhannwch