16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr Newyddion

Os ydych chi’n chwilio am yrfa sy’n cynnig y cyfle i ddefnyddio eich dawn greadigol yn ogystal â chael effaith gadarnhaol barhaol ar hyder a lles eich cleientiaid, yna efallai y dylech chi ystyried gyrfa trin gwallt.

Mae trin gwallt yn cynnig nifer o sgiliau trosglwyddadwy ac fe’i rhestrir yn gyson fel un o’r gyrfaoedd mwyaf hapus a boddhaus yn y byd.

Os ydych chi am ddechrau eich taith yn y sector ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, mae Twf Swyddi Cymru + yn cynnig y cwrs perffaith.

Mae’r darparwr hyfforddiant ACT yn darparu Trin Gwallt a Gwaith Barbwr Lefel 1 mewn salon ac mae’n cynnig amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys technegau sylfaenol, cymorth gyda lliwio a sut i greu’r steil gwallt perffaith. Mae dysgwyr yn elwa o brofiad ymarferol, yn gweithio’n llawn amser mewn lleoliad sydd wedyn yn arwain at brentisiaeth.

Un dysgwr sydd wedi elwa o’r cymorth a gynigir a’r sgiliau a ddysgir ar y rhaglen yw Darla Wathen o Gaerdydd.

Roedd gan Darla ddiddordeb mewn trin gwallt erioed ac roedd y cymhwyster yn ffordd wych o ddysgu’r sgiliau bydd eu hangen arni i symud ymlaen yn y diwydiant, yn ogystal â magu hyder mewn lleoliad salon.

Mae ei lleoliad yn y salon lleol, Henderson & Co. Mae hi hefyd yn derbyn cefnogaeth gan diwtor ACT, Charlotte Sims.

Dywedodd Darla: “Fy hoff beth am y lleoliad yw nad yw’n teimlo fel fy mod i’n mynd i’r gwaith o gwbl – mae fel mynd yn ôl at fy ail deulu. Rwyf hefyd wrth fy modd â’r cyngor y mae gwahanol steilwyr yn ei roi. Rwy’n dysgu ac yn esblygu bob dydd.”

Yn ogystal â sgiliau a thechnegau, mae Darla hefyd wedi gweld gwelliant mawr yn ei hyder.

Ychwanegodd: “Mae’r gefnogaeth rydw i wedi cael gan fy nhiwtoriaid yn ACT wedi bod yn hollol anhygoel. Pan ddes i i ACT doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gwneud unrhyw beth gyda fy mywyd ond fe wnaeth Charlotte fy helpu ac annog i mi gredu ynof fi fy hun.

“Roeddwn i’n berson pryderus iawn ac roeddwn i mor nerfus mewn cyfweliadau, ond fe wnaeth Charlotte fy helpu i fod y fersiwn orau ohonof fy hun. Oni bai amdani hi fyddwn i ddim lle’r ydw i nawr.”

Mae Darla bellach yn edrych ymlaen at ddod yn driniwr gwallt cwbl gymwysedig ac mae eisiau parhau i rannu ei chariad at drin gwallt gyda chleientiaid.

Dywedodd ei thiwtor Charlotte Sims: “Dechreuodd Darla yn ACT ar raglen TSC+ gyda llawer o botensial ond dim llawer o hyder ynddi hi ei hun. Cafodd Darla ambell i anhawster yn ymgartrefu, ond unwaith iddi ddod yn gyfarwydd â’r ganolfan a’r staff fe ddangosodd ei bod yn ddysgwraig ardderchog.

“Mae Darla wedi rhoi ymdrech 100% i mewn i bob tasg rydyn ni wedi gofyn iddi gwblhau, ac roedden ni’n gwybod y byddai’n gaffaeliad i’r salon cywir, gan ei bod hi’n amlwg yn driniwr gwallt naturiol o’r diwrnod cyntaf.

“Fe ddaethon ni o hyd i Henderson & Co ac ar ôl siarad â pherchennog y salon, Kellie, roedden ni’n gwybod y byddai Darla yn cael cyfle anhygoel drwy fynychu lleoliad yno.

“Mae’r salon wedi ei chymryd hi o dan eu hadain, wedi ei chefnogi drwy ei holl hyfforddiant ac yn gwerthfawrogi ei chyfraniad i’r busnes.

“Mae Darla yn symud ymlaen trwy ei NVQ Lefel 1 yn wych, ac mae’r holl staff mor falch ohoni ac yn falch o ba mor bell y mae hi wedi dod.

“Mae gan Darla ddyfodol rhagorol o’i blaen a gallem ni ddim bod yn fwy cyffrous drosti.”

Ychwanegodd Mary Foley o ACT, sydd wedi gweithio gyda Darla fel asesydd ei chwrs: “Pan ddechreuodd Darla ar y rhaglen roedd ganddi ychydig o rwystrau i’w goresgyn ac roedd eisoes wedi cael cam yn y sector addysg. Ar ôl iddi ddod yn gyfarwydd â’r drefn a’r staff yn ACT, dechreuodd ddod allan o’i chragen a dangos bod ganddi botensial mawr.

“Roedd Darla yn bryderus i ddechrau mewn lleoliad salon gan ei fod yn gam arall allan o’i pharth cysurus ond dyna’r peth gorau y gwnaeth hi ac mae wedi rhagori ers hynny. Mae Darla wedi dangos y gellir goresgyn rhwystrau trwy benderfyniad, gwaith caled ac angerdd am y diwydiant gwallt, mae hyn hefyd yn amlwg gyda’r cynnydd y mae wedi gwneud gyda’i chymhwyster Trin Gwallt NVQ L1 gan ei bod wedi ei gwblhau mewn chwe mis!

“Mae Darla wedi cael cynnig prentisiaeth trin gwallt Lefel 2 yn Henderson & Co. Rydw i mor falch o Darla a phopeth y mae hi wedi’i gyflawni gydag ACT, mae hi’n ased gwych i’r salon ac mae ganddi yrfa wych o’i blaen.”

Os ydych chi rhwng 16 a 19 oed ac eisiau help i ddod o hyd i’ch gyrfa ddelfrydol, gallwch gofrestru ar gyfer Twf Swyddi Cymru + unrhyw bryd yma.

Rhannwch