16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr Newyddion

Camgymeriad cyffredin ynglŷn â dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau yw mai dim ond pobl sy’n dechrau mewn rôl sy’n gallu ymgymryd â nhw. Myth arall yw mai dim ond mewn ambell sector gwaith llaw y mae prentisiaethau ar gael. Mae’r rhain yn bell o fod yn wir.

Mae prentisiaethau’n ffordd wych o uwchsgilio aelodau staff presennol ar bob lefel mewn busnes. Mae pynciau’n amrywio o gyfryngau cymdeithasol a chyllid i wasanaeth cwsmer a rheolaeth, sy’n golygu y gallwch ddarganfod pwnc sydd o ddiddordeb ac sydd o fudd i chi pa bynnag ddiwydiant rydych yn gweithio ynddi.

Enghraifft berffaith o natur amrywiol dysgu seiliedig ar waith yw taith brentisiaeth David Chaffey. Mae David yn Weithredwr Switsfwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ef yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwasanaeth telathrebu’r bwrdd.

Mae ei rôl yn cynnwys darparu gwasanaeth cyflym, cyfeillgar ac effeithlon i gydweithwyr, aelodau’r cyhoedd a sefydliadau partner eraill. Yn ddysgwr brwd, ymgymerodd David â chymhwyster Defnyddwyr TG Lefel 3 er mwyn hybu ei hyfedredd gyda’r offer yr oedd yn eu defnyddio o ddydd i ddydd; er ni ddaeth hyn heb ei heriau.

Mae gan David nam ar ei olwg ac mae’n defnyddio darllenydd sgrin JAWS i’w helpu i gwblhau tasgau.

“Roeddwn i’n awyddus i gael gwell dealltwriaeth o Office 365 a sut y gallwn ei ddefnyddio i wneud y mwyaf ohono, ochr yn ochr â’m darllenydd sgrin,” esboniodd David.

Cyn pen dim roedd yn gallu trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygwyd o fewn y cymhwyster i’w rôl bob dydd.

Dywedodd:

“Rhoddodd y cwrs yr hyder, y sgiliau a’r wybodaeth i mi allu defnyddio Office 365 mewn ffordd hollol newydd.

“Cyn hynny roeddwn i’n defnyddio Outlook a Word a dyna’r cyfan. Ers ymgymryd â’r cwrs, rwy’n hapus i ddefnyddio holl raglenni Office sydd nid yn unig wedi bod o fudd i mi yn fy rôl bresennol ond sydd wedi fy ngalluogi i wneud y mwyaf ohono yn fy rôl secondiad fel Swyddog Cynhwysiant Anabledd.”

Un o fanteision prentisiaeth yw bod y cwrs yn hyblyg ac y gellir ei gwblhau ochr yn ochr â’ch rôl, gan ategu eich gwaith.

“Roedd y math hwn o ddysgu yn fy siwtio i gan fy mod yn gweithio, ond yn dal i ddysgu a datblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth, ei gymhwyso i’m hamgylchedd gwaith ac ennill profiad bywyd go iawn,” meddai David.

Os oes gan ddysgwyr anghenion ychwanegol y mae’n rhaid eu hystyried wrth weithio tuag at eu cymhwyster, gall ACT wneud newidiadau neu addasiadau. Yn achos David, roedd ganddo ddarllenydd ac ysgrifennwr i’w helpu i gwblhau’r gwaith cwrs.

“Rwy’ wedi derbyn cefnogaeth wych drwy gydol y cwrs,” meddai David. “fe wnâi gyfaddef fy mod i bron heb orffen ond yn ffodus, gyda’r gefnogaeth a gefais gan y tiwtoriaid, y darllenydd a’r ysgrifennwr, rwy’ bellach wedi cyflawni’r nod ac mae’n rhaid i mi gyfaddef mai dyma’r teimlad gorau.”

Rhannwch