16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Cwmni Newyddion

Croesawodd ACT ymwelydd arbennig yr wythnos hon, gyda Heledd Fychan AS Plaid Cymru yn taro mewn i’w pencadlys yn Ocean Park House yng Nghaerdydd.

Gwnaeth Heledd gyfarfod â Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, yn ystod ei hymweliad er mwyn trafod ymrwymiad y sefydliad i ddysgu a datblygiad yn y gwaith.

Aeth Heledd ar daith o amgylch Rhaglen Twf Swyddi Cymru+ gyda Leon Patnett, Pennaeth Ymgysylltiad a Hyfforddiant Ieuenctid, i weld drosti hi ei hun y cyfleoedd anhygoel y mae ACT yn eu cynnig i bobl ifanc.

Cyfarfu Heledd hefyd â dysgwyr Wcreineg ynghyd â’u Hyfforddwr Dysgu, Diana Oleksiuk, i glywed am eu llwyddiannau er gwaethaf cael eu dadwreiddio gan y gwrthdaro parhaus.

Wrth siarad yn am ei thaith flaenorol fel ffoadur, dywedodd Diana: “Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bob un ohonom, ond rwyf hefyd yn credu ei fod wedi bod yn amser i gymryd cyfle ac i ddangos diwylliannau gwahanol i’n pobl ifanc o’r Wcráin a gwella eu sgiliau iaith hefyd.

“Mae wedi bod yn wych gallu gwneud rhywbeth cynhyrchiol gyda’m hamser yma a dod o hyd i rôl (o fewn ACT) sy’n fy ngalluogi i roi fy sgiliau ar waith mewn ffordd mor briodol ac effeithiol, er mwyn gallu cyfrannu’n ymarferol at fywydau pobl eraill o’m cwmpas sy’n byw’r un profiad.”

Cafodd Heledd gyfle hefyd i gwrdd â Bethan Maund, Pennaeth Prentisiaethau, i ddysgu mwy am sut y gall uwchsgilio a hyfforddiant seiliedig ar waith fod yn drawsnewidiol nid yn unig i sefydliadau unigol ond i dirwedd broffesiynol Cymru gyfan, yn enwedig yn sgil y pryderon cynyddol ynglŷn â bwlch sgiliau’r wlad.

Dywedodd Bethan Maund: “Roedd hi’n wych cael croesawu Heledd Fychan i ACT ac iddi glywed drosti ei hun yr effaith gadarnhaol mae dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau yn eu cael ar ein dysgwyr. Gobeithio iddi gael eu hysbrydoli gymaint â ni gan eu straeon llwyddiant.”

Dywedodd Heledd Fychan AS: “Gwnaeth fy ymweliad ag ACT argraff fawr arnaf, ac fe fwynheais weld dros fy hun y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud i chwalu’r rhwystrau i bobl ifanc ledled Cymru a’u rhoi ar y llwybr gorau posibl ar gyfer y dyfodol.

“O’r amrywiaeth eang o gynlluniau prentisiaeth maen nhw’n darparu i gefnogi ffoaduriaid ifanc Wcreineg i ymgartrefu yng Nghymru a phopeth arall rhwng y ddau, mae ACT yn sicr yn fodel o sut y gellid ac y dylid mynd ati i sicrhau mwy o gyfleoedd i bob person ifanc.”

Rhannwch