16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Cwmni Newyddion

Casglwyd 39 bag o sbwriel mewn ardal o ddau gilomedr mewn ymgyrch casglu sbwriel cymunedol yn ardaloedd Sblot ac Adamsdown yng Nghaerdydd.

Trefnwyd y grŵp o tua 60 o wirfoddolwyr gan y darparwr hyfforddiant, ACT, gan gynnwys timau o fusnesau cyfagos DS Smith, Hello Starling, Webbox, Haines Watts a Linnworks. 

Cynhaliwyd y digwyddiad i ddathlu Diwrnod y Ddaear, yn ogystal â lansio cymhwyster seiliedig ar waith newydd ACT; Rheoli Ynni a Charbon. Mae’r cymhwyster yn ymuno a chyfres o gyrsiau a ddarperir gan ACT gyda ffocws ar helpu busnesau i ddod yn fwy cynaliadwy ac ymwybodol o’r amgylchedd.

Aeth chwe thîm allan i’r strydoedd o amgylch pencadlys ACT ar East Tyndall Street, gan ddechrau ger Green Squirrel yng Ngerddi’r Rheilffordd.

Bonion sigaréts a chaniau diod oedd yr eitemau gwastraff mwyaf cyffredin ymhlith y sbwriel a gasglwyd, a oedd yn cyfateb i tua 400 cilogram. Rhoddodd y tîm wybod i’r cyngor am achosion o dipio anghyfreithlon, gwydr wedi torri, blychau a phetheuach cyffuriau hefyd.

Dywedodd Sarah John, Cyfarwyddwr ACT, a gymerodd ran yn y casglu sbwriel: “Fel darparwr hyfforddiant yng nghanol y gymuned, rydym yn credu mai ein cyfrifoldeb ni yw gosod esiampl i’n dysgwyr trwy ymarfer yr hyn rydym yn ei bregethu ac arwain mentrau rhagweithiol sy’n cael effaith gadarnhaol. 

“Rydyn ni hefyd eisiau dangos bod gweithredoedd bach yn gallu cael effaith gadarnhaol fawr – ethos rydyn ni’n ei feithrin o fewn ein cymwysterau cynaliadwyedd.

“Diolch i bawb a gymerodd ran ac a helpodd i wneud cymaint o wahaniaeth i’n strydoedd lleol.”

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ACT. Y llynedd, derbyniodd y sefydliad ardystiad ISO 14001 am ei system rheolaeth amgylcheddol – safon ryngwladol. Ar hyn o bryd ACT yw’r unig ddarparwr hyfforddiant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i feddu ar statws o’r fath. 

Gallwch ddysgu mwy am gymhwyster Diploma Rheoli Egni a Charbon ACT fan hyn.

Rhannwch