16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Cwmni Newyddion

Mae ACT wedi derbyn achrediad Arweinwyr mewn Amrywiaeth gan y Ganolfan Amrywiaeth Genedlaethol (National Centre for Diversity).

Mae’r teitl yn cydnabod ymrwymiad y sefydliad i feithrin diwylliant teg, parchus, cyfartal, amrywiol, cynhwysol a deniadol (neu FREDIE yn Saesneg) o fewn ei weithrediadau ac fe ddaw ar ôl cyfnod ailasesu trylwyr gan y corff dyfarnu.

Dim ond ychydig iawn o sefydliadau yn y DU sy’n derbyn teitl Arweinwyr mewn Amrywiaeth ac mae’n cydnabod bod gan y busnes, ynghyd â’i weithwyr a’i bartneriaid, ddealltwriaeth gadarn o’r hyn sydd angen gwneud er mwyn mabwysiadu ethos FREDIE yn y gweithle. Mae hefyd yn dangos bod gwaith wedi’i wneud i sicrhau bod pob agwedd ar y cwmni yn dangos tegwch a chydraddoldeb.

Mae rhai o’r newidiadau a weithredwyd o fewn ACT ar ei daith i ddod yn Arweinydd mewn Amrywiaeth yn cynnwys creu grwpiau llywio a chynghori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, cyflwyno canllawiau cyfarfodydd cynhwysol, darparu hyfforddiant i staff a rheolwyr, cynhyrchu datganiadau hygyrchedd ar gyfer pob safle a sefydlu cyfathrebiadau mewnol FREDIE rheolaidd, gan gynnwys dathlu gwahanol ddigwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol a diwrnodau ymwybyddiaeth.

Dywedodd Rebecca Cooper, Pennaeth Pobl a Datblygiad ACT: “Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi cyflawni achrediad Arweinwyr mewn Amrywiaeth gyda’r Ganolfan Amrywiaeth Genedlaethol. Rydym ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r ganolfan ers 2020 i wneud ACT yn lle gwirioneddol gynhwysol i weithio a hyfforddi.

“Gan ddefnyddio’r acronym FREDIE, rydym wedi gweithio gyda’n gweithwyr, dysgwyr, partneriaid a chyflenwyr i ddatblygu arferion da mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

“Trwy’r daith hon, mae ein harweinwyr wedi datblygu gwybodaeth helaeth am sut y gall FREDIE helpu i yrru perfformiad, creadigrwydd ac amrywiaeth ledled y busnes a fydd yn y pen draw yn galluogi ACT i gyflawni ei nodau strategol a’i nodau tymor hir.

“Mae ein Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi bod yn allweddol wrth yrru camau gweithredu ymlaen ac mae ein grŵp Cynghori Staff  wedi bod yn gyfrannol wrth gasglu adborth a chyflwyno syniadau.

“Hoffwn ddiolch i’r Ganolfan Amrywiaeth Genedlaethol am ein tywys drwy’r broses hon ac i bawb fu’n paratoi ar gyfer, a chynnal, yr asesiad. Er hyn dydyn ni ddim yn gorffwys ar ein bri o bell ffordd. Mae gennym feysydd i’w gwella o hyd ac rydym yn hyderus mai ACT fydd y darparwr hyfforddiant mwyaf arloesol a chynhwysol yn y DU trwy ein gwaith parhaus ar FREDIE.”

Rhannwch