16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Dysgwyr

Mae’n Wythnos Dysgu yn y Gwaith, ymgyrch genedlaethol sy’n pwysleisio pwysigrwydd uwchsgilio a datblygiad parhaus trwy gydol eich gyrfa.

Fel prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, mae gwella bywydau trwy ddysgu wrth wraidd yr hyn a wnawn yn ACT ac mae ein hymrwymiad i ddysgu yn ymestyn, nid yn unig i’r bobl rydyn ni’n eu haddysgu, ond hefyd i’r staff sy’n rhan o’n busnes.

Dechreuodd Rebecca Cooper, Pennaeth Adran Pobl a Datblygiad ACT, ei gyrfa gyda’r sefydliad dros ugain mlynedd yn ôl ac mae hi wedi symud ymlaen at arwain rhai o brosiectau mwyaf uchelgeisiol ac arwyddocaol y cwmni.

Bûm yn siarad â hi am ei gyrfa a sut y mae dysgu seiliedig ar waith wedi bod yn rhan annatod o’i siwrnai.

Sut wnaethoch chi ddechrau eich gyrfa?

Er nad oeddwn yn cael trafferth yn academaidd yn yr ysgol, doedd gennyf fawr o ddiddordeb mewn astudio yn ystod fy arddegau ac felly fe adawais yr ysgol yn 16 oed gyda dim ond un TGAU mewn Mathemateg.

Ar ôl gweithio mewn swydd weinyddol sylfaenol dros dro yn 16 oed, dechreuais hyfforddeiaeth genedlaethol gyda’r CADCentre a chwblhau NVQ mewn TG.

Yna, fe gyflogodd y CADCentre fi fel gweinyddwr, a gweithiais yno am dair blynedd ochr yn ochr ag astudio cymhwyster datblygu pobl rhan-amser gyda’r nos.

Ym mis Mehefin 2003, dechreuais fel gweinyddwr gydag ACT, gan weithio fy ffordd i fyny at swydd reolwr gweinyddu yn y pen draw. Dechreuais hefyd ymgymryd â dyletswyddau Adnoddau Dynol yn ACT gan fy mod eisoes wedi cyflawni cymhwyster Lefel 3 CIPD – arweiniodd hyn yn y pen draw at ddod yn rheolwr Adnoddau Dynol a Gweinyddu cyn canolbwyntio’n llwyr ar Adnoddau Dynol wrth i’r cwmni dyfu.

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn bod ACT wedi cefnogi fy natblygiad bob cam o’r ffordd. Rwyf wedi ennill cymaint o gymwysterau dros y blynyddoedd trwy ddysgu seiliedig ar waith ac addysg bellach gan gynnwys Gweinyddu Busnes Lefel 3, ILM Lefel 5, CIPD Lefel 5 ac yn fwy diweddar CIPD Lefel 7.

Oeddech chi eisiau gyrfa mewn pobl a datblygu ers y dechrau?

Nac oeddwn, a dweud y gwir. Pan oeddwn i’n llawer iau, roeddwn i eisiau bod yn gyfreithiwr. Fodd bynnag, pan ddechreuais weithio’n llawn amser, gwelais adnoddau dynol fel llwybr gyrfa da a oedd yn gweddu i’m cryfderau.

Sut gwnaeth dysgu seiliedig ar waith ddylanwadu ar eich dealltwriaeth o’ch maes a’ch rôl ynddo?

Rwyf wedi gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith ers 24 mlynedd bellach ac wedi datblygu llawer iawn o wybodaeth am y sector yn y cyfnod hwnnw. Rwyf hefyd wedi gweld llawer o newid dros y blynyddoedd, ac mae pob un ohonynt wedi fy helpu i dyfu fel gweithiwr proffesiynol.

Ni fyddwn i lle rydw i heddiw heb ddysgu seiliedig ar waith a chyflogwr cefnogol a allai weld fy mhotensial. Mae dysgu seiliedig ar waith wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi ac wedi fy helpu i gywiro rhai o’r camgymeriadau y gwnes yn fy addysg yn ystod fy arddegau.

 Beth yw’r sgiliau pwysicaf yr ydych chi wedi’u datblygu yn eich gyrfa?

 Gan fy mod wedi bod gydag ACT ers cymaint o flynyddoedd, rwyf wedi tyfu gyda’r cwmni. Rwyf felly wedi cael y fraint o weithio ar draws y rhan fwyaf o’r adrannau a rolau, gan roi dealltwriaeth gadarn i mi o sut mae ACT yn gweithredu.

Mae hyn, ochr yn ochr â’r wybodaeth a’r sgiliau rwyf wedi’u hennill trwy gwblhau cymwysterau CIPD ar wahanol lefelau, wedi fy ngalluogi i ddod yn gynghorydd dibynadwy i bobl ar draws y cwmni.

I ba gyfeiriad ydych chi’n gweld dysgu a hyfforddiant yn y gwaith yn mynd yn P&D?

Credaf fod dysgu seiliedig ar waith yn ennill ei blwyf ymysg llwybrau addysgol eraill, sy’n wych i’w weld,  ond mae mwy i’w wneud yn y maes hwn o hyd. O fewn yr adran Pobl a Datblygiad, rydym yn canolbwyntio’n fawr ar dueddiadau a heriau cyfoes gan gynnwys llesiant, awtomeiddio ac AI, a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyd i chi yn eich gyrfa hyd yn hyn?

Peidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu! Mae’r byd yn newid mor gyflym, os byddwch chi’n rhoi’r gorau i ddysgu, mae perygl y cewch eich gadael ar ôl.

Pa hyfforddiant fyddech chi’n ei argymell i bobl sy’n dechrau eu gyrfa mewn P&D?

 Yn bendant y cymwysterau CIPD. Mae cymwysterau lefel 3, 5 a 7 yn rhoi’r lefel briodol o wybodaeth a sgiliau i chi ar gyfer gwahanol gyfnodau yn eich gyrfa. 

Ar hyn o bryd mae ALS Training yn darparu cymwysterau CIPD sy’n cael eu hariannu’n llawn drwy’r llwybr prentisiaeth. Gallaf eu hargymell yn gryf. 

Rhannwch