16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Dysgwyr

Mae cymhwyster sy’n helpu pobl ifanc yn eu harddegau i feithrin gwell dealltwriaeth o bynciau allweddol bywyd wedi cyrraedd carreg filltir bwysig.

Mae’r cymhwyster ‘Hunanddatblygiad a Lles’, a grëwyd gan gorff dyfarnu CBAC a’r darparwr hyfforddiant ACT, wedi dathlu blwyddyn ers ei lansio yn ddiweddar.

Y cymhwyster Hunanddatblygiad a Lles yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer y ddau sefydliad ac mae’n ymdrin â phynciau y mae dysgwyr ifanc yn debygol o’u hwynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd fel llywio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel, deall hunaniaeth bersonol, iechyd rhywiol a rheoli arian.

Wedi’i greu dros gyfnod o ddwy flynedd, datblygwyd y cymhwyster gan brofiadau dysgwyr sy’n mynychu Twf Swyddi Cymru+ (TSC+), gyda ffocws ar bethau y byddai pobl ifanc yn eu harddegau yn debygol o ddod ar eu traws a phethau na fyddent efallai wedi dysgu amdanynt mewn mannau eraill.

Mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed sy’n eu helpu i ennill y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i symud ymlaen at yrfa neu hyfforddiant lefel uwch pellach.

Mae dysgwyr ar raglen TSC+ fel arfer yn dewis arbenigedd y mae ganddynt ddiddordeb ei ddilyn, fel gofal anifeiliaid, adeiladu neu drin gwallt. Mae’r cwrs Hunanddatblygiad a Lles yn gymhwyster ychwanegol i’w ychwanegu at eu portffolio.

Fe’i rhennir yn dair prif adran – sgiliau gwytnwch, hunaniaeth bersonol a dulliau atal cenhedlu.

Esboniodd tiwtor TSC+, Kayleigh Williams:

“Mae’r dyfarniad Hunanddatblygiad a Lles yn meithrin dealltwriaeth ehangach ein dysgwyr o bynciau y gallent eu hwynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

“Mae’r pwnc gwytnwch yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd sy’n cefnogi strategaethau hunanddatblygiad ein dysgwyr. Er enghraifft, mae’n helpu i ddysgu technegau anadlu

iddynt er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar gadarnhaol. Anogir dysgwyr hefyd i greu cyfnodolion sy’n mapio’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i leihau lefelau straen a phryder.

“Mae’r modiwl hunaniaeth bersonol yn edrych ar wahanol gefndiroedd a chymunedau a sut mae ein dysgwyr yn ffitio i’r byd.

“Mae’r drydedd uned, atal cenhedlu, yn ymdrin â gwahanol ddulliau atal cenhedlu, sut maen nhw’n cael eu defnyddio, lle gall dysgwyr fynd i’w cael, a phwysigrwydd cadw eu hunain yn ddiogel.”

Ychwanegodd Laura Callaghan, Swyddog Cymwysterau Sgiliau a Llwybrau CBAC: “Rydym yn falch iawn o weld y cynnydd yn y cofrestriadau a chyflawniad llwyddiannus ein cymhwyster Hunanddatblygiad a Lles. Mae’r cymhwyster unigryw hwn wedi’i ddylunio gyda’n dysgwyr mewn golwg, gan roi cyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy a llwybr amgen at gyflogaeth iddynt.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i ACT am eu brwdfrydedd a’u gwaith caled wrth gyflwyno’r cymhwyster hwn. Mae ansawdd y gwaith sy’n cael ei gyflawni gan eu dysgwyr yn dyst i’w gallu i’w hysgogi a’u hysbrydoli.

Rhannwch