16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Blog Cwmni

Diwrnodau canlyniadau mis Awst yw rhai o ddyddiadau pwysicaf yn y calendr ysgol – ond fel arweinydd busnes, fe ddylen nhw fod yn ddyddiadau pwysig i chi hefyd.

Bob blwyddyn, mae nifer fawr o ymadawyr ysgol yn edrych at gyflogaeth fel eu cam nesaf – gan symud i ffwrdd o addysg am y tro cyntaf i fyd cyffrous gwaith. Mae hwn yn gyfnod hanfodol i sefydliadau chwilio am dalent newydd, cyfle i ddod â ‘chynfas wag’ i mewn i’r diwydiant a sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o weithwyr yn cael yr hyfforddiant mwyaf cyfredol a pherthnasol i’ch gweithgareddau.

Gall y gweithwyr newydd hyn fod yn allweddol i ddatblygiad eich busnes. Nid yn unig y mae staff ifanc yn helpu i ddod â phersbectif newydd i weithgareddau, maent hefyd yn fuddsoddiad hir dymor gwych, gan hogi eu crefft yng nghyd-destun blaenoriaethau ac ethos eich cwmni.

A gyda bron i hanner busnesau Cymru yn dweud bod yna fwlch sgiliau ar hyn o bryd, ni fu dod â thalent newydd i’ch sector erioed yn bwysicach. Mewn gwirionedd, mae 75% o sefydliadau yng Nghymru, sy’n defnyddio rhaglenni prentisiaeth ar hyn o bryd, yn disgwyl cynyddu neu ymrwymo i’r un nifer o ddysgwyr dros y 12 mis nesaf, gan amlygu gwerth dysgu seiliedig ar waith fel modd o feithrin talent newydd a mynd i’r afael ag anghenion sgiliau penodol. 

Bydd llawer o bobl sy’n gadael yr ysgol yn ystyried symud i fyd gwaith drwy gynllun prentisiaeth.

Iddyn nhw, mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill sgiliau, cyfrifoldebau a phrofiadau newydd ac ennill arian ar yr un pryd.

I fusnesau, mae prentisiaethau’n cynnig cyfle i ‘dyfu eich talent eich hun’, gan feithrin ethos cryf wedi’i seilio ar eich cwmni ac yn y bôn yn mowldio gweithiwr o’r cychwyn cyntaf. 

Yn ôl ystadegau‘r Llywodraeth, mae 86% o gyflogwyr yn dweud bod prentisiaethau wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i’w sefydliad. Mae mwy na thri chwarter y cyflogwyr (76%) yn nodi cynhyrchiant gwell trwy brentisiaethau, tra bod 74 y cant wedi gweld gwelliant yn ansawdd eu cynnyrch neu wasanaeth. 

Yn amlwg, gall denu talent newydd deimlo fel gorchwyl anodd ond felly hefyd yw ceisio dod o hyd i’ch swydd gyntaf. Felly, dylai cwmnïau gydnabod pwysigrwydd a braint rhoi cyfle cychwynnol i weithiwr ifanc a’r gefnogaeth sydd ei hangen i sicrhau eu bod yn ffynnu yn y rôl.

Dylai rhoi cyfle proffesiynol cyntaf i rywun sy’n gadael yr ysgol fod nid yn unig yn fater o lenwi swydd wag yn eich busnes ond yn fuddsoddiad a chyfraniad gweithredol at ddyfodol cadarnhaol eich diwydiant a’ch sector.

Mae ACT, ynghyd â’i chwaer gwmni ALS, yn ddarparwyr hyfforddiant blaenllaw sy’n gweithio gyda dros 600 o gyflogwyr ar hyn o bryd – gan gynnwys British Heart Foundation, Legal and General a byrddau iechyd y GIG – i ddarparu prentisiaethau sy’n gweithio i’r cyflogwr a’r gweithiwr.

Os ydych chi’n awyddus i ddarganfod sut y gallai llogi prentis weithio i chi, gallwch ddarganfod mwy o fanylion a chysylltu ag ACT yma.

Rhannwch