16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Medi 2024 / Cwmni

I lawer o diwtoriaid ACT, nid yw’r mantra o ‘wella bywydau trwy ddysgu’ wedi’i gyfyngu i’r ystafell ddosbarth. Mae hynny’n sicr yn wir am diwtor cerbydau modur ysgolion ACT, Jason Clifford Hillman, ar ôl i gyfarfod annisgwyl mewn archfarchnad arwain at daith wirfoddoli anhygoel.

Clywodd Jason am y cyfle i wirfoddoli gyda chriw bad achub pan aeth i Tesco yn ôl yn 2018. Cafodd sgwrs ag aelod o dîm oedd yn casglu arian ar gyfer SARA (Cymdeithas Achub Ardal Hafren) a chofrestrodd ei ddiddordeb i ymuno â’r criw gwirfoddol ar unwaith.

O ystyried natur y rôl, mae’r hyfforddiant i ddod yn aelod o griw bad achub yn ddwys.

“Mae’n golygu dechrau fel criw glan cyn symud ymlaen i’r bad achub,” esboniodd Jason. “Mae’n rhaid i chi allu nofio mewn amodau heriol ar y môr ac mewn dyfrffyrdd mewndirol. Gall brofi eich stamina, ond mae’r hyfforddiant yn rhoi’r wybodaeth a’r technegau i chi gadw’ch hun yn ddiogel.

“Y cwrs goroesi morol yw’r mwyaf heriol gan fod yn rhaid i chi ddringo i rafft ar ôl nofio i ffwrdd o’r llong mewn trafferthion mewn amodau dŵr garw. Rydych chi wedi blino’n lân ond mae dal angen i chi ddringo i mewn i’r rafft  – a dyna un o’r rhannau mwyaf anodd.”

Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant, treuliodd Jason dros bum mlynedd gyda SARA, er ei fod wedi trosglwyddo’n ddiweddar i gangen Port Talbot Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) lle mae ar hyn o bryd yn aelod o griw’r glannau.

Wrth siarad am y gwahaniaeth rhwng y ddwy elusen, dywedodd Jason: “Mae’r RNLI wedi bod yn achub bywydau ar y môr ers dros ddau gan mlynedd – maen nhw’n sefydliad mawr. Mae SARA yn sefydliad llai felly mae’n rhaid blaenoriaethu pa adnoddau sydd ganddynt er mwyn sicrhau bod yr holl offer a hyfforddiant yn cadw eu gwirfoddolwyr yn ddiogel.

“Mae’r ddwy yn elusennau a heb roddion caredig y cyhoedd ni fyddent yn gallu ymgymryd â’r gwaith a pharhau i achub bywydau.”

Nid yw’n syndod bod Jason yn gweld agwedd achub bywyd y rôl fel y peth mwyaf buddiol, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â thîm clos.

Er bod y gwaith corfforol yn parhau i fod yn amcan mor allweddol fel aelod o’r criw, mae addysg diogelwch dŵr yn bwysig iddo hefyd.

“Rydyn ni eisiau i bobl fwynhau’r dŵr ond ei barchu oherwydd, os na wnewch chi, gall fod yn anfaddeuol,” rhybuddiodd Jason.

Er efallai nad yw’n amlwg ar unwaith bod llawer o orgyffwrdd rhwng bod yn diwtor cerbydau modur ac yn aelod o griw bad achub gwirfoddol, mae Jason yn credu bod elfennau o debygrwydd rhwng ei rolau.

“Mae gennym ddyletswydd gofal i’r cyhoedd yn yr un ffordd ag y mae gen i ddyletswydd gofal i bob disgybl rwy’n gweithio gyda nhw. Rwyf hefyd yn dysgu sgiliau newydd yn gyson nid yn unig yn ymarferol ond hefyd wrth ryngweithio ag eraill o wahanol gefndiroedd.”

Ar hyn o bryd mae’r RNLI yn dathlu 200 mlynedd o waith achub bywyd. Darganfyddwch fwy am yr elusen yma. 

Rhannwch