16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Dysgwyr

I lawer, atyniad dysgu seiliedig ar waith yw ei hyblygrwydd a’r gallu i ennill sgiliau newydd yn ystod oriau gwaith. Ar gyfer y cynorthwyydd addysgu Karen De Freitas roedd y rhyddid hwn yn hanfodol i gyd-fynd â’i rôl fel rhiant.

Roedd Karen eisiau uwchsgilio ond roedd angen cwrs allai weithio o amgylch ei swydd mewn ysgol gynradd arni. Dyna pryd y daeth o hyd i’r cymhwyster Lefel 3 Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion (STLS) gydag ACT.

Mae’r cymhwyster yn rhoi gwell dealltwriaeth i ddysgwyr o’u rôl a’u cyfrifoldebau mewn lleoliad addysg, gan ddatblygu eu proffesiynoldeb, eu gwybodaeth a’u hyder yn eu gwaith gyda phlant a chydweithwyr.

“Roedd yn gwrs y gallwn i ei gwblhau wrth weithio,” esboniodd Karen. “Roedd yr hyblygrwydd yn allweddol. Roeddwn i’n gallu gwella fy sgiliau llythrennedd a rhifedd a gwella fy ngwybodaeth yn y rôl.”

Yn ogystal â gwella sgiliau hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, canfu Karen fod y cymhwyster yn rhoi hwb i’w hyder.

“Rwy’n well cynorthwyydd addysgu nag o’r blaen. Rwy’n teimlo’n fwy sicr ac yn fwy hyderus yn yr hyn rwy’n ei wneud. Dwi ddim yn teimlo’n anghymwys mwyach.”

Wrth siarad am ymarferoldeb cwblhau cymhwyster wrth weithio, dywedodd Karen: “Roedd yn wych oherwydd roeddwn i’n gallu gweithio yn fy mhwysau ac yn fy lle fy hun. Roedd y dyddiadau cau yn gyraeddadwy.

“Roedd fy aseswr, Charlotte, yn wych. Roedd dau achlysur lle roeddwn i’n agos at roi’r ffidil yn y  to. Dim byd i’w wneud â’r cwrs, ond i wneud â hyder a gwydnwch. Yn fy nghyfarfodydd â Charlotte, roedd ei chefnogaeth a’i hanogaeth yn rhyddhad ac yn hwb i fi orffen fy nghwrs. Ac mi wnes i.

Roedd fy nghyflogwr hefyd yn gefnogol ac yn gynorthwyol. Roedden nhw’n wych yn galluogi i Charlotte fynd i fy asesu yn y gwaith.”

Er gwaethaf ambell i rwystr ar hyd y ffordd, mae Karen yn awyddus i barhau i ddysgu ac mae hi bellach wedi gosod ei golygon ar her hyd yn oed yn fwy.

Meddai: “Mae’r cwrs hwn, fy nghydweithwyr a Charlotte wedi fy ysgogi i fynd ymhell y tu hwnt i’r hyn roeddwn i’n ei ddisgwyl – ac rwy wedi rhoi fy mryd ar ennill gradd. Rwyf wedi mentro ac rwy’n fenyw brifysgol nawr, yn aros i ddechrau’r antur nesaf.”

Pan ofynnwyd iddi a oedd ganddi unrhyw eiriau o anogaeth i rywun sydd ar y ffens ynghylch dilyn cwrs ai peidio, dywedodd Karen: “Cer amdani, mae’n gyfle gwych i ddysgu pethau newydd a thanio dy ymennydd. Os wyt ti’n fam fel fi, mae’n gyfle i wneud rhywbeth drosot ti dy hun. Rwyt ti’n ei gwblhau yng nghysur dy gartref, gyda llwyth o gefnogaeth, a byddi di byth ar dy ben dy hun.”

Os hoffech chi archwilio opsiynau dysgu seiliedig ar waith, darganfyddwch fwy yma. 

Rhannwch