Er bod pawb yn chwarae rhan bwysig o fewn y sefydliad, ychydig iawn all ddweud eu bod wedi dechrau fel dysgwr gyda busnes cyn dod yn aelod o staff. Mae gan y gweithwyr hyn olwg unigryw ar y sefydliad a dealltwriaeth ddyfnach o daith y dysgwyr.
Cawson sgwrs â thri aelod o staff am y daith unigryw hon.
Pan adawodd y Tiwtor Ymgysylltu, Callum Taylor, y chweched dosbarth fe benderfynodd nad oedd am fynd i’r brifysgol. Roedd am chwilio am swydd yn lle hynny.
“Ar ôl ychydig wythnosau o geisio am swyddi, doeddwn i ddim wir wedi cyrraedd unrhyw le felly es i at i Yrfa Cymru ac fe wnaethon nhw fy nghyfeirio at ACT” esboniodd Callum. “Fe wnes i gwrs Gwasanaeth Cwsmer lefel 1 ac ar ôl ychydig fisoedd, cefais fy rhoi ar leoliad yng Nghanolfan Heol Hadfield fel cynorthwyydd dysgu. Mae’n rhaid fy mod i wedi gwneud argraff dda, oherwydd ychydig fisoedd yn ddiweddarach cefais gynnig swydd.”
Er gwaethaf hyn, nid addysgu oedd y llwybr cyntaf a ddaeth i Callum yn ACT. “I ddechrau, daeth ACT o hyd i leoliad gweinyddol i mi, ac fe wnes hynny am ychydig fisoedd,” cofiodd. “Ond doedd e ddim yn teimlo fel y peth iawn i fi.” Yn ansicr o’i gamau nesaf, dychwelodd i’r ganolfan i archwilio opsiynau eraill. Dyna pryd awgrymodd ei diwtor leoliad fel cynorthwyydd dysgu. “Fe benderfynais roi cynnig arni, ac fe wnes i wir fwynhau. Fe wnaeth fy helpu i sylweddoli fy mod i’n fwy addas ar gyfer rôl mewn addysgu neu hyfforddiant nag ym maes gweinyddu.”
Mae’r profiad hwn wedi ei osod ar lwybr newydd. Dysgodd ei amser fel dysgwr yn ACT lawer mwy na sgiliau technegol iddo – rhoddodd yr wybodaeth oedd ei hangen arno yn broffesiynol. “Dysgais sut i wneud cais am swyddi, cyflwyno fy hun mewn cyfweliadau, a dod yn fwy cyflogadwy,” esboniodd. Y tu hwnt i’r gwersi ymarferol, cafodd fewnwelediad personol hefyd drwy’r sesiynau lles. “Fe wnaeth y sesiynau hynny fy helpu i feddwl yn fwy beirniadol am lawer o bethau a’m paratoi ar gyfer heriau fy lleoliad gwaith.”
Parhaodd ei leoliad fel cynorthwyydd addysgu yn Hadfield Road tua thri mis, a daeth yn drobwynt yn ei yrfa. “Wrth i’r lleoliad ddod i ben, aeth rheolwr y ganolfan â mi o’r neilltu a gofyn a fyddai gen i ddiddordeb parhau yn y swydd.”
Derbyniodd Callum y cynnig, gan weithio i ddechrau fel cynorthwyydd ystafell ddosbarth cyffredinol. Tua blwyddyn yn ddiweddarach, trosglwyddodd i’w rôl bresennol fel tiwtor ymgysylltu.
Nawr, fel hyfforddwr dysgu, mae ei rôl yn canolbwyntio ar gefnogi lles dysgwyr, ond mae’n pontio sawl maes. “Rwy’n cyflwyno sesiynau lles, yn cael sgyrsiau un i un gyda dysgwyr a allai fod yn cael trafferthion, a hyd yn oed yn trin cryn dipyn o waith gweinyddol,” meddai. “Mae’n dipyn o bopeth, ond yr agwedd fwyaf buddiol yw gweithio’n uniongyrchol gyda’r dysgwyr a gweld eu datblygiad yn ystod eu hamser ar y rhaglen.”
Fodd bynnag, nid oedd y newid o ddysgwr i aelod staff heb ei heriau. “Ar y dechrau, roedd yn anodd oherwydd bod rhai o’r dysgwyr y bûm yn gweithio gyda nhw yn bobl roeddwn i wedi bod yn gyfeillgar â nhw fel cyd-ddysgwr,” cyfaddefodd. “Ond dros amser, wrth i mi ennill profiad ac wrth i’r dysgwyr hynny symud ymlaen, fe ddaeth yn haws. Wna i fyth anghofio fy mharti Nadolig cyntaf a gweld y staff roeddwn i’n gweithio gyda nhw fel dysgwr yn ymlacio a dathlu – fe welais ochr mor wahanol iddyn nhw!”
Wrth edrych yn ôl, mae’n credu bod ei brofiadau fel dysgwr wedi cael effaith ddwys ar y ffordd y mae’n cyflawni ei rôl. “Mae gen i gymaint o empathi tuag at ein dysgwyr oherwydd rwy’n deall beth maen nhw’n mynd drwyddo,” meddai. “I lawer ohonyn nhw, dydyn ni ddim yn flaenoriaeth— mae ganddyn nhw heriau eraill yn eu bywydau. Mae’n bwysig peidio â’i gymryd yn bersonol pan nad ydyn nhw’n blaenoriaethu eu dysgu.”
Mae ei daith o ddysgwr i aelod staff hefyd wedi rhoi persbectif unigryw iddo ar ACT yn ei gyfanrwydd.
“Rwy’ wedi gweld sut mae ACT yn gweithio o’r ddwy ochr, ac mae hynny wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o daith y dysgwyr. Mae’n hynod o werthfawr bod yn rhan o’r daith honno i eraill, gan eu helpu i oresgyn eu heriau a thyfu, yn union fel y gwnes i.”
Yn 17 oed, roedd bywyd ar ôl gadael yr ysgol yn teimlo’n ansicr i’r Gweithiwr Allgymorth Dysgwyr, Nazma Hassan. Wedi ymddieithrio ac yn ansicr ynghylch pa lwybr gyrfa i’w ddilyn, cafodd ei hun ar groesffordd. “Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud,” meddai. “Ond wedyn cefais gyfarfod â Gyrfa Cymru, ac fe wnaethon nhw fy nghyflwyno i lwybr prentisiaeth gydag ACT. Fe wnaeth e daro deuddeg gyda fi oherwydd fy mod i’n ddysgwr ymarferol sy’n ffynnu wrth y gwaith.”
Beth wnaeth i ACT sefyll allan oedd nid yn unig y dull ymarferol, ond hefyd yr ymdeimlad o annibyniaeth yr oedd yn meithrin. “Roeddwn i wrth fy modd nad oedd ACT yn teimlo fel ysgol. Fe wnaeth y rhyddid hwnnw fy nghymell i barhau i ymgysylltu â’r cwrs.”
Dewisodd Nazma ddilyn cwrs Gweinyddu Busnes, gan weld potensial ar gyfer twf yn y maes. Lleoliad yn adran Iechyd a Diogelwch ACT oedd dechrau ei siwrnai. “Dyna lle ddechreuodd y cyfan,” meddai. “Fe wnes i gwblhau fy nghymhwyster Lefel 1 Gweinyddu Busnes a chefais gyfle i symud ymlaen at brentisiaeth, lle enillais fy nghymwysterau Lefel 2 a 3 Gweinyddu Busnes. Yna fe wnes i drosglwyddo i’r tîm Gweinyddu Data.”
Datblygodd ei hamcanion gyrfa ar hyd y ffordd. “Pan ymunais ag ACT am y tro cyntaf, roeddwn i’n meddwl fy mod i eisiau bod yn athro. Ond ar ôl ychydig o brofiad gwaith, sylweddolais nad oedd yn addas i mi. Roeddwn i’n lwcus i ddarganfod hyn yn gynnar a gallu troi at rywbeth oedd yn teimlo fel gwell ffit.”
Yn ystod ei hamser yn dysgu gydag ACT, enillodd Nazma nid yn unig sgiliau technegol ond hefyd gwytnwch personol. “Un o’r gwersi mwyaf a ddysgais oedd sut i fynd i’r afael a heriau, a roddodd hynny hwb i’m hyder. Os nad oedd rhywbeth yn gweithio allan, fe ddes i o hyd i ddatrysiadau eraill neu fe geisiais gefnogaeth gan fy nhiwtoriaid. Fe ddes i’n fwy annibynnol ac uchelgeisiol, hyd yn oed pan ddechreuodd rhai ffrindiau ymddieithrio o’r cwrs. Wnes i ddim gadael i hynny effeithio ar fy nghynnydd.”
Talodd ei ymrwymiad ar ei ganfed. Ar ôl cwblhau ei chymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 1, gwelodd ei rheolwr llinell ei photensial a’i hargymell ar gyfer rôl brentisiaeth yn ACT. “Es i drwy’r broses gyfweld ac roeddwn wrth fy modd o gael cynnig y swydd,” meddai.
Am y 14 mlynedd nesaf, bu’n llwyddiannus fel Gweinyddwr Data. Roedd ei rôl yn cwmpasu popeth o brosesu taliadau dysgwyr a rheoli cofnodi data i ddyletswyddau archwilio a derbyn. Ond nid dyna ddiwedd y gân. “Dros flwyddyn yn ôl, datblygwyd rolau newydd ar y rhaglen TSC+, a gwnes gais am swydd Gweithiwr Recriwtio Allgymorth. Cefais y swydd, ac mae wedi bod yn anhygoel. Fe wnaeth fy ngwthio allan o’m parth cysur a’m helpu i dyfu hyd yn oed ymhellach.”
Pan awgrymodd ffrind Jess Stiff, derbynnydd yng Nghanolfan Hadfield y dylai ymuno â hi ar gwrs trin gwallt a barbro yn ACT, doedd y syniad o gofrestru erioed wedi croesi ei meddwl. Ond ar ôl mynd ar daith o gwmpas y ganolfan, roedd hi’n chwilfrydig.
“Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi clywed am ACT cyn i’m ffrind ei grybwyll,” eglurodd Jess, “ond unwaith y gwelais beth roedden nhw’n ei gynnig, penderfynais ddilyn cwrs Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid yn lle hynny, a arweiniodd yn y pen draw at gwblhau fy nghymhwyster Lefel 1 Astudiaethau Tir.”
Nid ar hap y gwnaeth y penderfyniad. Roedd diddordeb dwfn mewn bywyd gwyllt ac mewn cathod mawr wedi siapio ei nod gyrfa wreiddiol – i ddod yn sŵolegydd. “Mae diddordeb wedi bod gennyf erioed mewn bywyd gwyllt” meddai Jess. “Mae’r syniad o weithio gyda chathod mawr ac astudio eu hymddygiad wir wedi fy ysbrydoli.”
Bu ei chyfnod fel dysgwr yn ACT yn gyfnod o dwf dwys, yn bersonol ac yn broffesiynol. Dysgodd y cwrs ystod eang o sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy iddi, a fyddai’n amhrisiadwy yn ei gyrfa. “Fe wnes i ddatblygu sgiliau rheoli amser, meddwl yn feirniadol, a datrys problemau,” meddai. “Rwyf hefyd wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu ac ymchwil. Ar yr ochr ymarferol, dysgais sgiliau gofal anifeiliaid sylfaenol fel bwydo, dyfrio, gwiriadau iechyd, a thechnegau trin priodol. Cefais brofiad ymarferol gyda chynnal a chadw clostiroedd hyd yn oed, gan gynnwys dewis y swbstradau ac eitemau cyfoethogi cywir.”
Roedd y newid o fod yn ddysgwr i aelod o staff yn dro annisgwyl ond yn un i’w groesawi yn ei siwrnai. “Ro’n i dal ar y rhaglen pan ges i gynnig swydd,” cofiodd. “Roedd fy nhiwtor ar y pryd yn help mawr i mi baratoi ar ei gyfer. I ddechrau, dechreuais fel dysgwr ar leoliad, ond yn fuan fe wnaethant benderfynu rhoi swydd llawn amser i mi. A nawr dwi’n gweithio yma.”
Heddiw, mae ei rôl yn ACT yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau. “Rwy’n cyfarch a chroesawu ymwelwyr, rheoli galwadau ac ymholiadau sy’n dod i mewn, yn ogystal â goruchwylio post ac archebion sy’n cyrraedd.
“Mae yna hefyd agwedd diogelwch i’m rôl, gan sicrhau bod protocolau ymwelwyr yn cael eu dilyn, ac rwy’n cynorthwyo gyda thystysgrifau dysgwyr. Yn ogystal, rwy’n arwain teithiau o amgylch yr adeilad, gan roi cipolwg ar ein cyrsiau a’r hyn y maent yn cynnwys i ddarpar ddysgwyr.”
Doedd symud o fod yn ddysgwr i fod yn aelod o staff ddim heb ei heriau. “Ar y dechrau, roedd bron yn ormod,” cyfaddefodd. “Roedd cymaint i’w ddysgu a’i gofio. Ond yn raddol, daeth pethau’n haws a dechreuais ei fwynhau’n fawr. Mae’r amgylchedd yma mor groesawgar a chyfeillgar. Yn ddiweddarach, pan gefais fy nhrosglwyddo i ganolfan arall, roeddwn i’n teimlo’n nerfus unwaith eto, ond o fewn wythnos, fe wnes i setlo i mewn a theimlo’n gyfforddus.”
Mae ei hamser yn ACT yn llawn atgofion sy’n tynnu sylw at ei thwf a’i gallu i addasu. “Un o’m hoff adegau oedd bod ar y llwyfan ac ateb cwestiynau gan Scott Quinnell am fy nghwrs a nodau gyrfa,” meddai. “Profiad amlwg arall oedd gweithio yn y caffi, a roddodd sgiliau gwerthfawr i mi mewn lleoliad hollol wahanol.”
Wrth edrych yn ôl, mae hi’n credu bod ei phrofiad fel dysgwr yn ACT wedi llunio’r ffordd y mae’n mynd i’r afael â’i gwaith heddiw. “Fe wnaeth fy nysgu sut i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
“Rydw i wedi dod yn fwy prydlon, hyderus, ac yn ariannol gyfrifol. Mae fy sgiliau cyfathrebu wedi gwella’n sylweddol hefyd.”