16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Newyddion

Neithiwr, cynhaliodd ddarparwyr hyfforddiant ACT ac ALS eu Gwobrau Llwyddiant drwy Sgiliau cyntaf yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Roedd y digwyddiad yn dathlu’r dysgwyr, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a thiwtoriaid sydd wedi helpu i hyrwyddo dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru. Cafodd y gwesteion fwynhau bwyd ac adloniant yn atriwm y coleg cyn cynnal seremoni wobrwyo 12 categori cryf.

Yn ystod yr areithiau croesawu, pwysleisiodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, bwysigrwydd dysgu seiliedig ar waith wrth fynd i’r afael â bwlch sgiliau Cymru. Dywedodd: “Rydyn ni yma i gydnabod pŵer dysgu seiliedig ar waith a’r effaith anhygoel y mae’n ei gael – nid yn unig ar fywydau unigolion, ond ar ein diwydiannau, ein cymunedau, a dyfodol ein heconomi yng Nghymru.”

Roedd y gwobrau’n cynnwys cyfoeth o gategorïau yn cydnabod rhagoriaeth mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, hybu’r Gymraeg, a Sgiliau Hanfodol yn ogystal â phrentisiaethau; gydag enillwyr yn cynrychioli amrywiaeth eang o sectorau proffesiynol.

Prif enillydd y noson, a gipiodd wobr Dysgwr y Flwyddyn, oedd Harvey Liddicoat.

Mae Harvey yn un o ddisgyblion Ysgolion ACT, darpariaeth annibynnol ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed sydd yn cael addysg prif ffrwd yn anodd am amryw o resymau.

Roedd Harvey yn aelod blaenllaw o’r ysgol. Yn adnabyddus am ei agwedd barchus a charedig, fe oresgynnodd nifer o heriau a gwneud cynnydd enfawr yn ystod ei gyfnod gydag ACT. Yn fwyaf nodedig, roedd yn ffigwr allweddol yn eu cydweithrediad diweddar â TEAM Collective Cymru (gynt yn rhan o National Theatre Wales).

Yn ystod y prosiect hwn, nid yn unig cyfansoddodd gân wreiddiol, ond fe wnaeth hefyd ei recordio a’i pherfformio ar gyfer staff a chyfoedion. 

Cafodd mynychwyr Gwobrau Llwyddiant Drwy Sgiliau neithiwr gyfle i fwynhau perfformiad arbennig, wrth i Harvey chwarae gitâr a chanu ei gân wreiddiol yn egwyl y seremoni.

Wrth fyfyrio ar y gwobrau, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear: “Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o’n Gwobrau Llwyddiant trwy Sgiliau cyntaf ac i ddathlu cyflawniadau dysgwyr a chyflogwyr gyda’n tiwtoriaid a’n partneriaid. 

“Mae mor bwysig cydnabod a gwobrwyo ymroddiad a gwaith caled y rhai sydd ar reng flaen dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru, yn enwedig pan mae cyllid prentisiaethau yn parhau i fod dan fygythiad. Mae’r gwobrau hyn, a’r straeon sy’n cael eu rhannu gan ein henillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn brawf bod dysgu seiliedig ar waith yn newid bywydau er gwell.”

Richard Spear a Will Hayward

Llwyddiant Drwy Sgiliau

Jason Jones

Dysgwr Sgiliau Hanfodol y Flwyddyn (arian)

Jonathan Parker

Dysgwr Sgiliau Hanfodol y Flwyddyn (aur)

Ann Harries Jones

Hyrwyddwr y Gymraeg

Lisamarie Bracey

Pencampwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Harvey Liddicoat

Dysgwr Ysgolion ACT y Flwyddyn

Benji Walker

Dysgwr TSC+ Ymgysylltu y Flwyddyn (arian)

Jayden Brown

Dysgwr TSC+ Ymgysylltu y Flwyddyn (aur)

Lilli-Ella Crawley

Dysgwr TSC+ Datblygu y Flwyddyn (arian)

Mckenzie Williams

Dysgwr TSC+ Datblygu y Flwyddyn (aur)

Perfformiad Harvey

Prentis Sylfaen y Flwyddyn

Canmoliaeth Uchel

Mairi Richards

Prentis Sylfaen y Flwyddyn (arian)

Dafydd Robinson

Prentis Sylfaen y Flwyddyn (aur)

Prentis y Flwyddyn

Canmoliaeth Uchel

Faye Morgan

Prentis y Flwyddyn (arian)

Ethan Evans

Prentis y Flwyddyn (aur)

Prentis Uwch y Flwyddyn

Canmoliaeth Uchel

Gareth Williams & Jess Poole

Prentis Uwch y Flwyddyn (arian)

Hazel Eldridge

Prentis Uwch y Flwyddyn (aur)

Cyflogwr BBaCh y Flwyddyn

Canmoliaeth Uchel

Chuckles Nursery

Cyflogwr BBaCh y Flwyddyn (arian)

Caerdav Ltd

Cyflogwr BBaCh y Flwyddyn (aur)

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn

Canmoliaeth Uchel

Cyngor Caerdydd

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (arian)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (arian)

Trafnidiaeth Cymru

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (aur)

Harvey a Richard

Rhannwch