16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Newyddion

Mae taith un fenyw o’r salon trin gwallt i’r ystafell ddosbarth wedi bod yn un o dreialon personol a buddugoliaethau proffesiynol ac mae hi’n parhau i fod yn benderfynol i wneud addysg yn hygyrch i bawb.

Nawr yn gweithio tuag at ei chymhwyster TAR, mae’r steilydd Anastasia Cameron wedi rhannu ei thaith anhygoel a’r heriau sydd wedi hogi ei hawch i ddysgu’r grefft i’r genhedlaeth nesaf.

Yn 2021, daeth tro annisgwyl ar fyd Anastasia pan gafodd ddiagnosis o ganser y fron. Yn benderfynol o ddyfalbarhau, cwblhaodd ei thriniaeth ym mis Mehefin 2023, a rhoi ei brid ar her newydd. “Penderfynais mai hon oedd y flwyddyn y byddwn yn dechrau fy nghwrs TAR o’r diwedd,” meddai; wedi i’w cynlluniau gael eu gohirio gan y pandemig yn gyntaf ac yna gan ei diagnosis.

Nid cyd-ddigwyddiad oedd ei phenderfyniad i weithio yn ACT ar gyfer ei lleoliad addysgu. Wedi’i denu gan genhadaeth ACT o gefnogi dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau sylweddol, gwelodd gyfle i gyfrannu’n ystyrlon at sefydliad a oedd yn asio gyda’i phrofiadau ei hun.

Wrth dyfu i fyny, roedd addysg uwch yn freuddwyd anghyraeddadwy. “Doedd fy rhieni ddim yn gallu fforddio cwrs prifysgol. Cafodd fy nhad, er ei fod yn gyflogedig, ei ddiswyddo, a doedd ei gyflog newydd ddim yn gallu cefnogi fy nyheadau,” meddai.

Buan iawn y trodd i ffwrdd o’i haddysg. “Fe wnes i roi’r gorau i ymdrechu yn yr ysgol a chymysgu gydag eraill mewn sefyllfa debyg. Roedd fel petai yn haws. ”

O’r herwydd efallai, fe danbrisodd athrawon ei photensial. “Roedden nhw’n credu na fyddwn i’n cyflawni rhyw lawer, ac yn anffodus, fe ddechreuais i gredu hynny hefyd.”

Taniodd y profiad hwnnw ei hedmygedd o ACT, y mae’n ei ddisgrifio fel “goleufan gobaith.” Mae prentisiaethau ACT a rhaglenni Twf Swyddi Cymru + yn rhoi’r offer a’r anogaeth i ddysgwyr oresgyn heriau a chyflawni eu nodau.

Ychwanegodd Anastasia:

“Roeddwn i eisiau bod yn rhan fach o’r gwaith trawsnewidiol hwn oherwydd rwy’n credu bod pob dysgwr yn haeddu’r cyfle i lwyddo, waeth beth fo’u cefndir.”

Daeth ei throbwynt hithau pan ddaeth o hyd i’w chariad at drin gwallt. Gyda chefnogaeth tiwtor a oedd yn gallu gweld ei photensial, fe adenillodd ei hyder a dechrau ffynnu.

O’r fan honno, aeth taith Anastasia â hi at reoli salonau, rhedeg ei busnes ei hun, a mentora darpar drinwyr gwallt. Roedd y sgiliau a’r hunangred a enillodd yn ei hysbrydoli i anelu’n uwch fyth.

“Un o fy nodau hirdymor yw sefydlu fy academi fy hun,” eglurodd. “Ac mae dilyn cwrs TAR yn gam pwysig tuag at wireddu hynny.”

Nawr yn ACT, mae Anastasia yn cael ei hysbrydoli’n ddyddiol gan waith ei dysgwyr ac ymroddiad cydweithwyr fel y Rheolwr Darpariaeth Charlotte Sims a’r Tiwtor ADY Sazzia Ali Ahmun. “Mae eu gwaith anhygoel yn cefnogi ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr i gredu ynddyn nhw eu hunain a’u potensial.”

Yn ddiolchgar am y cyfle i gwblhau ei chymhwyster TAR, mae hi’n ei weld fel mwy na chymhwyster, mae’n gyfle i gyflawni gweledigaeth gytûn gydag ACT – o wella bywydau trwy ddysgu.

“Mae’r gwaith rhyfeddol y mae ACT yn ei wneud nid yn unig yn drawsnewidiol i unigolion ond mae hefyd yn cyfrannu at y gymuned ehangach, gan feithrin diwylliant o gyfle a grymuso,” meddai Anastasia.

Rhannwch