Wrth i Gymru baratoi i fynd i mewn i’w thrydedd gyllideb garbon yn ystod y misoedd nesaf, mae’r goblygiadau i fusnesau yn sylweddol.
Yn y bennod ddiweddaraf o Little Big Actions, mae’n tiwtoriaid ACT Karuna Sparks a Wallis Pegington yn dadbacio beth mae’r targedau hyn yn ei olygu i gwmnïau o bob maint, waeth ble maen nhw ar eu taith cynaliadwyedd.
Mae’r drydedd gyllideb garbon sydd ar ddod yn targedu gostyngiad o 58% ar gyfartaledd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2030 o’i gymharu â lefelau 1990. Wrth siarad am y rhifau uchelgeisiol hyn, esboniodd Wallis: “Mae angen i fusnesau weithio tuag at leihau eu hallyriadau i gyrraedd sero net.
Nid cydymffurfiaeth yn unig yw hwn, mae’n drawsnewidiad.”
Yn y bennod, mae’r tiwtoriaid yn archwilio sut mae’r newid hwn yn cynrychioli her a chyfle. “Byddwn i’n ystyried ail-fframio’r gair ‘baich’ i ‘fuddsoddiad’,” meddai Karuna wrth drafod goblygiadau cost y gyllideb. “Nid trawsnewidiad o anghenraid yn unig yw hwn, ond cyfle i fusnesau bach a chanolig ffynnu mewn cadwyni cyflenwi newydd sy’n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy, economi gylchol, a seilwaith gwyrdd.”
O gyngor ymarferol ar leihau allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3 i gymwysterau wedi’u hariannu’n llawn mewn Rheoli Ynni a Charbon, mae’r bennod hon yn cynnig golwg fanwl i unrhyw fusnes sy’n ceisio datgarboneiddio a diogelu ei weithrediadau i’r dyfodol.
Wrth siarad am bwysigrwydd sgiliau gwyrdd pan ddaw at gyrraedd y targedau hyn, ychwanegodd Wallis: “Mae hyfforddiant yn bwysig iawn gan ei fod yn esbonio pam rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd, ein rhwymedigaethau cyfreithiol, ac offer a thechnegau yn ymwneud a sut y gallwn arafu effeithiau ein gweithgareddau busnes.”
Gwrandewch ar y bennod ddiweddaraf o Little Big Actions ACT fan hyn.