16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Cwmni Newyddion

Mae ACT wedi ei osod yn 17eg ym Mynegai Cyflogwyr Mwyaf Cynhwysol y DU eleni gan y National Centre for Diversity.

Mae’r gyfundrefn yn helpu cwmnïau i adeiladu gweithleoedd cyfeillgar, tecach a mwy amrywiol, gyda’i mynegai yn dathlu sefydliadau sydd wedi meithrin diwylliant cynhwysol. Mae ACT wedi bod yn rhan o’r mynegai ers 2022.

Roedd sefydliad ymbarél ACT, Coleg Caerdydd a’r Fro, hefyd yn uchel yn y rhestr, gan ddod yn 12fed.

Dywedodd Becky Morris, Pennaeth Gwelliant Parhaus ACT, am y cyflawniad: “Ers dechrau ein taith yn 2022, pan gawsom ein gosod yn 27ain, rydym wedi gweithio’n galed i ymgorffori amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. Mae codi deg lle ers 2022 yn adlewyrchu ymroddiad ac angerdd ein cydweithwyr ar draws y sefydliad, sy’n cyfrannu at y diwylliant hwn bob dydd.”

Ychwanegodd Rebecca Cooper, Pennaeth Pobl a Datblygu yn ACT: “Rydyn ni’n hynod falch o gael ein hadnabod fel un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol y DU. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad ein staff, sy’n hyrwyddo cynhwysiant a thegwch ym mhopeth maen nhw’n ei wneud.

“Er ein bod ni wedi dod yn bell ers dechrau ein taith yn 2022, rydyn ni’n gwybod bod wastad mwy i’w wneud ac rydyn yn parhau i fod yn angerddol ac yn frwd dros welliant parhaus.”

Mae’r wobr yn dilyn cyfres o gydnabyddiaethau i ACT a ddaeth yn ddiweddar yn 26ain yn y 100 Cwmni Mawr Gorau i Weithio iddynt yn y DU a’r 5ed gorau yng Nghymru.

Ar y pryd, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Richard Spear: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu’r ymrwymiad anhygoel y mae fy nghydweithwyr yn ei ddangos bob dydd. Eu brwdfrydedd dros wella bywydau trwy ddysgu yw’r hyn sy’n gwneud ACT yn lle mor arbennig i weithio.

“Rwy’n hynod falch o’r diwylliant rydyn ni wedi’i adeiladu gyda’n gilydd ac yn falch iawn o’i weld yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol.”

Rhannwch