16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Newyddion

Mae FinTech Cymru wedi lansio Academi Gymunedol newydd, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â chyflogwyr technoleg ariannol blaenllaw yng Nghymru i roi llwybr uniongyrchol i bobl ifanc i yrfaoedd yn y sector.

Bydd Academi Gymunedol FinTech Cymru yn cynnig profiad gweithle ymarferol â thâl i ddysgwyr rhwng 18 a 19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant amser llawn ar hyn o bryd. Drwy gyllid a ddarperir gan raglen Twf Swyddi Cymru+, bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol wrth gwblhau lleoliadau gyda rhai o sefydliadau technoleg ariannol mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Hodge Bank, Creditsafe, a Final Rentals.

Mynd i’r afael â bylchau sgiliau ac ehangu mynediad

Wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â phrinder sgiliau ac ehangu mynediad at yrfaoedd twf uchel, mae’r academi yn darparu hyfforddiant trwy gwmni hyfforddiant ACT . Bydd dysgwyr yn gweithio tuag at Ddyfarniad mewn Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2 Agored Cymru, gan ddatblygu sgiliau ymarferol mewn:

  • Rheoli data
  • Offer cydweithio digidol
  • Diogelwch ar-lein
  • Cyfathrebu proffesiynol

Wrth siarad am lansiad yr academi, dywedodd Rhys Griffiths, Pennaeth Sgiliau FinTech Cymru:

“Rydym wrth ein bodd i lansio Academi Gymunedol FinTech Cymru. Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio gan gyflogwyr sydd wedi dod at ei gilydd i fynd i’r afael â heriau sgiliau yn y sector ar y cyd. Trwy fuddsoddi mewn pobl, rydym nid yn unig yn creu llwybrau gyrfa gwerthfawr i bobl ifanc ond hefyd yn cryfhau dyfodol technoleg ariannol yng Nghymru. Gwneir hyn drwy gydweithio, uchelgais a rennir ac adeiladu piblinell dalent gynaliadwy ar gyfer y diwydiant.”

Ar ôl cwblhau ei academi gymunedol ei hunain yn ddiweddar, mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn gyffrous i fod yn rhan o’r rhaglen. Dywedodd Kristy Maloney, Pennaeth Cynilion:

“Rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol effaith gadarnhaol darparu cyfle i archwilio gyrfa newydd – mae’n gyffrous i’r cyfranogwyr ac i ni fel sefydliad. Drwy weithio ar y cyd â FinTech Cymru, Hodge Bank, Final Rentals a Creditsafe, gallwn barhau i wneud

gwahaniaeth ac adeiladu’r biblinell dalent yma yng Nghymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â sêr posibl y dyfodol.”

Ychwanegodd Lucy Wilkinson, Rheolwr Llwybr Gwasanaethau Digidol yn ACT:

“Rydym yn falch o gynnig rhaglen lle mae dysgwyr nid yn unig yn ennill profiad ymarferol ar draws y sector technoleg ariannol ond hefyd yn cyflawni cymhwyster sgiliau digidol cydnabyddedig ar hyd y ffordd. Mae bod yn rhan o raglen Twf Swyddi Cymru+ yn caniatáu i ddysgwyr fireinio eu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyflogadwyedd, i gyd wrth dderbyn cefnogaeth ac arweiniad gan diwtoriaid profiadol. Byddant hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda gwahanol sefydliadau, gwneud cysylltiadau newydd a chael blas ar y byd gwaith. Ar y diwedd, bydd ein dysgwyr yn gadael yn barod i gymryd eu cam nesaf gyda chymhwyster sy’n agor drysau iddynt.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais ddod o hyd i fanylion llawn a gwybodaeth fan hyn.

Rhannwch