16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Blog Newyddion

Mae endometriosis yn effeithio 1.5 miliwn o fenywod a’r rhai a neilltuwyd yn fenywod adeg eu genedigaeth ledled y DU. Mae tua un o bob 10 menyw sydd o oedran atgenhedlu yn cael ei effeithio, gan ei wneud yr ail gyflwr gynaecolegol mwyaf cyffredin yn genedlaethol. Er gwaethaf ei gyffredinrwydd, mae’n parhau i fod yn gyflwr sydd wedi’i gamddeall gydag amserlen diagnosis rhwystredig o hir.

Fel rhan o ddatblygiad parhaus ei Bolisi Iechyd Menywod, mae ACT yn falch o fod wedi dod yn Gyflogwr Cyfeillgar i Endometriosis. Mae cymryd rhan yn y cynllun, a grëwyd gan yr elusen Endometriosis UK, yn ymrwymiad i feithrin amgylchedd a diwylliant sy’n galluogi gweithwyr ACT i ffynnu yn y gwaith.

Rhan bwysig o’i addewid yw i rannu ymwybyddiaeth o’r cyflwr, ei symptomau a’r ffyrdd y gall y rhai sydd â’r cyflwr gael eu cefnogi’n well.

Mae Sarah Stokes, Arweinydd Cefnogi Contractau ACT, wedi byw gydag endometriosis am y rhan fwyaf o’i bywyd, ond ni dderbyniodd ei diagnosis tan yn ddiweddar o’r diwedd.

Er gwaethaf profi symptomau gwanychol o un ar ddeg oed, dim ond ar ôl pedair blynedd ar bymtheg o ymladd i gael ei chlywed daeth y diagnosis. Rhannodd ei phrofiad gyda ni yn y gobaith bydd eraill yn cael eu hysbysu’n well am y cyflwr.

Un o’r mythau sy’n ymwneud â’r cyflwr yw ei fod yn ‘gyfnod gwael’. Mae endometriosis yn digwydd pan fydd celloedd tebyg i’r rhai yn leinin y groth i’w cael mewn mannau eraill yn y corff. Gall y celloedd hyn dyfu a newid mewn ymateb i hormonau yn y cylch mislif, ag gall achosi llid, poen a meinwe creithiau.

Mae symptomau cyffredin yn cynnwys mislifoedd poenus a thrwm, ie, ond hefyd poen a llid ar adegau eraill heibio’r mislif. I Sarah, mae blinder yn rhywbeth mae hi wedi cael trafferth ag ef ers degawdau.

“Mae angen i mi orffwys a chael nap yn aml oherwydd blinder. Rydw i wedi cael fy ngalw’n ddiog o’i herwydd,” esboniodd. “Ond dydy pobl ddim yn deall mai dim ond symptom arall o endometriosis ydy hyn.”

Ychwanegodd mai un o’r rhannau anoddaf o reoli endometriosis yn broffesiynol yw’r diffyg ymwybyddiaeth o faterion iechyd menywod yn gyffredinol. “Pe bai’n fater dyn, byddwn ni i gyd yn gwybod amdano. Does dim digon o gyllid nac ymchwil i iechyd menywod,” meddai. “Mae agweddau pobl yn aml, ‘o, mae hi’n edrych yn iawn. Roedd hi’n iawn ddoe, felly sut gallai hi fod yn waeth heddiw?’

“Rwy’n teimlo’n euog am y ffordd mae fy symptomau yn cael effaith weithiau. Ni allaf ragweld pryd bydd hynny’n digwydd.”

Gall endometriosis effeithio ar fwy na’r system atgenhedlu yn unig. Bu achosion o’r cyflwr yn effeithio ar yr ysgyfaint, trwynau a hyd yn oed yr ymennydd. Rhannodd Sarah fod llawdriniaeth ddiweddar i drin ei endometriosis hefyd wedi lleddfu fferdod yr oedd hi wedi’i brofi yn ei choes ers blynyddoedd. Roedd hyn oherwydd y meinwe endo yn cywasgu ar ei nerfau pelfig a oedd yn pelydru’r fferdod i lawr ei choes, rhywbeth sy’n rhyfeddol o gyffredin i ddioddefwyr.

Er gwaethaf cyfres o symptomau, llawer ohonynt gyda chydberthynas uniongyrchol â’i gilydd, profodd Sarah flynyddoedd o gael ei gwrthod gan weithwyr proffesiynol meddygol.

“Doedd neb yn edrych ar fy nghofnodion. Roeddwn i’n anemig, gyda B12 isel, arthritis rhiwmatoid, problemau mislif, poen yn y goes a does neb yn rhoi dau a dau at ei gilydd,” meddai. “Sut ydw i wedi mynd yr holl flynyddoedd hynny gyda’r un materion a dim un person yn meddwl cysylltu’r dotiau?”

Diolch byth, cafodd Sarah ddiagnosis o’r diwedd yn 30 oed, gan ddewis talu’n breifat am driniaeth.

Mae cymorth yn y gweithle hefyd wedi helpu wrth iddi lywio’r cyfnod hwn.

“Mae gwybod bod hyblygrwydd a dealltwriaeth yn dileu stigma ac yn eich helpu i reoli symptomau heb straen ychwanegol,” meddai. “Mae cael ystafell les breifat gallwch fynd iddi pan fyddwch chi mewn poen weithiau a dydych chi ddim eisiau bod o gwmpas pobl yn wych. Gallwch chi ymlacio,” esboniodd. “Mae gwneud yn siŵr bod cynnyrch mislif yn cael eu stocio’n llawn mewn ystafelloedd ymolchi hefyd yn bwysig oherwydd gallwch gael eich dal allan.”

Gofynnwyd iddi a oedd ganddi unrhyw gyngor i reolwyr, ychwanegodd: “Dydy pawb ddim efo’r un symptomau neu sut mae pobl yn ymdopi, felly peidiwch â gwneud rhagdybiaethau.

“Addysgwch eich hun cyn i chi geisio cefnogi rhywun, oherwydd ni fydd pawb yn agored yn yr un modd. A pheidiwch â diystyru sut mae rhywun yn ymdopi neu’n teimlo dim ond oherwydd nad ydych chi’n ei ddeall.”

Ar gyfer cydweithwyr sy’n cael trafferth mewn tawelwch, anogodd Sarah hunan-dosturi. “Peidiwch â theimlo’n euog. Dydy ychwanegu euogrwydd ar ben popeth arall ddim yn mynd i helpu’r sefyllfa o gwbl,” meddai. “Cewch eich tabledi, eich potel dŵr poeth, padiau gwres a dillad isaf sbâr yn barod i fynd. Peidiwch â bod â chywilydd.”

Wrth edrych ymlaen, mae Sarah yn gobeithio bydd gweithleoedd fel ACT yn parhau i esblygu yn eu hagwedd at iechyd menywod. “Mae cyfathrebu agored, hyblygrwydd, a’r wybodaeth bod eich cyflwr yn cael ei ddeall yn gadarnhaol,” meddai. “Gobeithio, bydd y brwydrau rydyn ni’n eu hwynebu heddiw yn helpu rhywun arall yfory.”

Os hoffech ddysgu mwy am Endometriosis a sut i gefnogi staff gyda’r cyflwr yn well, ewch i Endometriosis UK.

Rhannwch