Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes adeiladu, ond ddim yn siŵr beth sydd ei angen? Mae cymaint mwy i’r swydd na dim ond cryfder corfforol a goddefgarwch i weithleoedd uchel!
Yn gyntaf, efallai mai cyfathrebu yw’r sgil bwysicaf ar safle adeiladu. Mae cyfathrebu clir a chyflym yn hanfodol ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys nifer o bobl. I nodi a datrys problemau, mae’n helpu’n fawr os ydych chi’n rhywun sy’n gallu cyfleu’r neges yn uchel ac yn glir. Mae gwrando a deall yr un mor bwysig.
Fe fyddwch chi angen sgiliau mathemateg ac ysgrifennu sylfaenol ar gyfer prosiectau adeiladu, i fesur stribedi o bren, mesur nifer y briciau a chyfrifo faint o ddeunyddiau sydd eu hangen.
Bydd angen sgiliau datrys problemau brwd ar bob swydd adeiladu hefyd. Ar unrhyw ddiwrnod penodol, gallwch warantu y bydd problem i’w goresgyn, neu fater mae’n rhaid ei rannu’n ddarnau llai i ddod o hyd i ateb. Beth os caiff llwyth o ddeunyddiau trwm eu danfon i’r lle anghywir? Rhaid i chi ddefnyddio sgiliau rhesymu i nodi’r broblem a meddwl am ffyrdd o fynd o’i chwmpas.
Wrth adeiladu, gallai problemau nad ydynt yn cael eu trin yn brydlon olygu fod prosiect yn rhedeg dros amser, neu fod ansawdd y gwaith terfynol yn wael. Yn waeth byth, os yw’n fater iechyd a diogelwch, gallech chi neu weithiwr arall fod mewn perygl o anaf difrifol. Felly, mae angen agwedd sydyn a rhagweithiol at broblemau wrth adeiladu.
Mae angen trefnu a rheoli amser yn dda ar gyfer swyddi adeiladu o bob maint. Mae angen gallu dibynnu arnoch i gwblhau gwaith o fewn terfyn amser a dangos dealltwriaeth lawn o’r prosiect, o’r dechrau i’r diwedd. Mae bod yn drefnus yn helpu morâl y tîm a bydd yn gadael i chi adeiladu enw da fel rhywun y gellir dibynnu arno.
Mae’n rhaid i chi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu, gan y gall prosiectau adeiladu newid yn annisgwyl. Gall unrhyw beth o’r tywydd i brinder staffio achosi i wythnos gyfan o waith gael ei aildrefnu ar y funud olaf. Efallai y cewch eich adleoli i le gwaith gwahanol neu’n gorfod defnyddio sgiliau nad oeddech yn disgwyl gorfod eu defnyddio.
Ydych chi bob amser wedi bod yn fwy o ddysgwr gweledol, sy’n dysgu sgiliau drwy eu gweld ar waith, yn hytrach na darllen disgrifiad? Mae Hyfforddeiaeth mewn adeiladu yn llythrennol yn gadael i chi fynd i’r afael ag offer y fasnach, a gydag ymroddiad, gallech fod yn ymfalchïo yn eich arbenigedd adeiladu neu waith coed cyn bo hir.
Mae galw mawr am weithwyr adeiladu medrus, ledled y DU, ar hyn o bryd. Mae’r diwydiant yn awyddus iawn i ddenu pobl ifanc fel chi, gan ei fod ar hyn o bryd yn dibynnu ar weithlu tramor sy’n crebachu. Gyda chymaint o swyddi gwag, byddwch yn dod o hyd i ystod eang o swyddi cyffrous sy’n aros i gael eu llenwi gan yr ymgeisydd cywir, medrus.
Am fanylion am yr Hyfforddeiaethau Adeiladu sydd ar gael gyda ACT, cliciwch yma.