Ar ôl ennill ei chymhwyster Lefel 5 ILM gydag ACT, mae Nicola Turner, 58, o Gasnewydd, bellach yn Brif Orthoptydd a Phennaeth Ymarfer yn Adran Gwasanaethau Orthoptig yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
“Pe na bawn i wedi gwneud y cymhwyster rheoli cyn gwneud cais am y rôl rheoli, fyddwn i ddim wedi ennill y rôl wnes i. Ro’n i’n sefyll allan o’r ymgeiswyr eraill, diolch i’r cymhwyster yma.”
Mae Diploma Lefel 5 Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli (ILM) ACT mewn Rheolaeth yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau arwain hanfodol, rheoli prosesau busnes newid strategol a dylunio i sicrhau’r effeithiolrwydd sefydliadol mwyaf posib.
Ychwanega Nicola, “Mewn cyfweliad, fe wnaeth yr ILM fy helpu gan fod yna gwestiynau y gallwn eu cysylltu’n ôl â fy asesiadau prentis. Mae’n eich galluogi i feddwl yn wahanol. Mae’n gwneud i chi sefyll allan ac yn rhoi mantais i chi dros eraill.”
Dewisodd Nicola ymgymryd â’i chymhwyster Lefel 5 ILM er mwyn datblygu ei sgiliau yn y gweithle ymhellach a sicrhau dilyniant gyrfa.
“Gyda’r Bwrdd Iechyd roeddwn i’n gwybod er mwyn symud ymlaen yn fy ngyrfa, bod angen i mi ddal ati i dyfu a dysgu fy sgiliau. Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n mynd i rôl reolaethol newydd ac roeddwn i eisiau cefnogaeth i fy helpu gyda hynny, felly roeddwn i’n ymwybodol o’r mathau o bethau roeddwn i angen eu gwybod.
Daeth Nicola o hyd i brentisiaeth oedd y ffordd ddelfrydol i ddysgu ochr yn ochr â gweithio. Nid yn unig roedd y cymhwyster yn cael ei ariannu’n llawn, ond roedd hi’n gallu cymhwyso’r hyn yr oedd hi’n ei ddysgu yn ymarferol yn ei rôl gwaith.
Mae prentisiaethau yn anhygoel. Mae cost yn aml yn gallu bod yn rhwystr i ddysgu, felly roedd y ffaith y gallwn i ennill y cymhwyster am ddim drwy’r gwaith yn anhygoel. Dwi’n lwcus fod y bwrdd iechyd yn hyrwyddwyr enfawr o brentisiaethau a wir yn annog staff i uwchsgilio. Mae o fudd iddyn nhw a’u staff.
Yn ogystal â sicrhau dyrchafiad, enillodd Nicola gyfoeth o sgiliau yn dilyn ei phrentisiaeth ac mae’n teimlo bod y cymhwyster wedi ei gwneud yn well rheolwr yn gyffredinol.
“Mae’r cymhwyster wedi dangos i mi sut i ddatblygu ysgwyddau llydan, aml-dasgio yn ogystal â helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth emosiynol ynghylch lles a chydbwysedd bywyd gwaith. Mae wedi fy helpu’n fawr gan y gallaf gefnogi fy staff mewn ffordd llawer gwell a chynnig templedi gwaith sy’n gweithio iddyn nhw fel unigolion. Mae’r brentisiaeth wedi rhoi eglurder i mi – dwi’n gwybod pa fath o reolwr rydw i eisiau bod!”
I ddechrau roedd Nicola ychydig yn nerfus ynglŷn ag ymgymryd â’r cymhwyster, ond cafodd ei hofnau eu rhoi o’r neilltu yn fuan.
“Roedd ACT yn anhygoel ac mor gefnogol. Fe ges i gwrdd â phobl o bob cefndir – mae fel profiad rhwydweithio. Roedd aseiniadau yn cael ei harchwilio gyda chrib fân oedd mor ddefnyddiol gan eich bod yn gwybod yn union beth oedd yn ddisgwyliedig ohonoch chi. Roedd yr addysgu mor gynhwysfawr anaml iawn yr oeddwn angen cefnogaeth ychwanegol. Fodd bynnag, roeddwn i’n gwybod ei fod e yna pe bawn i ei angen.”
Erbyn hyn mae hi wedi cwblhau ei chymhwyster ac mae Nicola yn awyddus i hybu prentisiaethau o fewn ei thîm gan ei bod yn teimlo eu bod yn arf gwych i uwchsgilio a magu hyder.
“Yn y gwaith, mae’r Cyfarwyddiaethau yn gwybod fy mod i’n gymwys ac yn gallu bwrw ymlaen â’r dasg wrth law. Mae’r cymhwyster wir wedi rhoi’r hyder i mi godi llais a lleisio barn mewn cyfarfodydd bwrdd a chyfarwyddiaeth a rhannu’r hyn rwy’n ei feddwl. Dwi’n rheoli tîm ifanc felly dwi’n annog uwchsgilio gan fy mod i eisiau iddyn nhw gael y wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen i symud ymlaen.”
Os ydych chi am gael gwybod mwy am ein cymhwyster Lefel 5 ILM a sut y gall fod o fudd i’ch gyrfa neu fusnes, ewch yma.