16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr Newyddion

Mae menyw a rhoddodd y gorau i’w gyrfa cyllid llwyddiannus i ddysgu ‘gwersi byw fel oedolyn’ i bobl ifanc wedi cael triniaeth 5 seren gyda chymorth dysgwyr.

Sefydlodd Laura Abraham ‘The Grown Up School’ yn 2019, i roi cymorth i bobl ifanc i deimlo’n fwy parod ar gyfer bywyd fel oedolyn. Gan gynnig gwybodaeth am bynciau o gyfrifeg i forgeisi, mae’r wefan wedi datblygu i fod yn adnodd ar-lein rhad ac am ddim pwysig.

Cafodd ‘The Grown Up School’ ei chydnabod yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau Cenedlaethol Cychwyn Busnes eleni gan ennill Busnes Newydd Addysg a Hyfforddiant y Flwyddyn Cymru. Ac, gan barhau i hyrwyddo dysgwyr ifanc, gofynnodd Laura am gymorth dysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro ac ACT i’w pharatoi ar gyfer y digwyddiad.

Rhoddodd myfyrwyr dylunio ffasiwn yn CAVC, Alexandra Carey a Tori Elliott, eu meddwl creadigol ar waith i ddylunio a chreu gwisg Laura ar gyfer y noson trwy uwchgylchu dillad ‘vintage’.

Cafodd gwallt a cholur ar gyfer y digwyddiad ei lunio gan ddysgwyr ACT, Tia-Lee Bridle a weithiodd ar y gwallt, Tia Mahon ar golur a Milla Bram ar ewinedd.

Dywedodd Laura Abraham, a ymunodd â thîm Twf Swyddi Cymru + ACT yn ddiweddar fel Tiwtor Sgiliau: “Ym mron pob ysgol rwy’n addysgu ynddi, mae o leiaf un myfyriwr ym mhob dosbarth a llyfr nodiadau yn eu bag, yn awyddus i ddangos eu dyluniadau dillad i mi.

“Wrth gwrs, pan ges i fy enwebu ar gyfer y gwobrau, daeth y panig ‘beth ydw i’n mynd i’w wisgo?’ ac yn hytrach na mynd i siop i brynu gwisg, daeth y myfyrwyr hyn i’r meddwl.

Rwy’ am annog yr angerdd rwy’n ei weld bob tro y bydd myfyriwr yn chwipio ei llyfr nodiadau allan i ddangos ei gwaith i mi. Dwi ddim am iddynt gael eu digalonni gan yr heriau enfawr y mae pobl yn y diwydiannau creadigol yn eu hwynebu. Rwy’ am iddyn nhw gredu y gallan nhw lunio’r gyrfaoedd y maen nhw’n breuddwydio amdanyn nhw.

“Mae hyn yn rhoi cymaint mwy o ystyr i’r gwobrau i mi, i rannu fy llwyfan gydag eraill, ac arddangos eu gwaith caled.”

Dywedodd Leon Patnett, Pennaeth Ymgysylltu a Hyfforddiant Ieuenctid yn ACT: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i’n dysgwyr nid yn unig gael profiad ymarferol allweddol yn eu maes ond hefyd i gael gweld eu gwaith caled yn cael ei gydnabod mewn lleoliad o fri. Bydd y profiad hwn yn cael effaith barhaol, nid yn unig oherwydd y gellir ei ddefnyddio ar gyfer eu portffolios yn y dyfodol ond oherwydd eu bod yn gyfrifol am dasg mor bwysig yn gynnar yn eu gyrfa. Rydym ni’n credu eu bod wedi gwneud gwaith anhygoel.”

Dywedodd Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Mae’n bwysig iawn bod ein dysgwyr yn cael cyfleoedd byw fel y rhain sy’n cynnig profiad go iawn ac nid dim ond profiad realistig o sut beth fydd bywyd yn eu gyrfa ddewisol. Roedd bod Laura ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn hefyd yn cynnig cyfle gwych i ddwy fyfyrwraig o Grŵp CAVC weithio’n agos gyda’i gilydd.”

Rhannwch