Mae ACT wedi bod yn ‘gwella bywydau trwy ddysgu’ ers 35 mlynedd y mis hwn.
Lansiwyd darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru ym mis Medi 1988 ar y Parade yng Nghaerdydd, gan ddarparu hyfforddiant i 200 o oedolion di-waith yn ei flwyddyn gyntaf. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i helpu dros 75,000 o ddysgwyr i gyflawni eu nodau gyrfa, gan weithio gyda mwy na 14,000 o gyflogwyr ledled Cymru.
Mae hefyd wedi cynyddu ei ddarpariaeth addysgol, ers hynny gan lansio ei hysgolion annibynnol ei hun ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed, yn ogystal â darparu rhaglen Twf Swyddi Cymru + – rhaglen a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc 16 i 19 oed i symud ymlaen yn eu gyrfa.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau ACT, Louise Williams, a ymunodd â’r cwmni yn 1999: “Pan sefydlwyd ACT roedd diweithdra uchel yng Nghymru gyda diffyg cyfleoedd difrifol i oedolion a phobl ifanc heb sgiliau. Roedd sylfaenwyr ACT wir yn teimlo cyfrifoldeb i wneud rhywbeth amdano a gwneud gwahaniaeth.”
Yn ogystal â darparu hyfforddiant i oedolion, ym 1993 dechreuodd ACT ddarparu hyfforddiant ieuenctid, rhywbeth sydd wedi datblygu’n gynnig allweddol i’r busnes.
Yn 2006, ACT oedd y darparwr dysgu seiliedig ar waith cyntaf i ennill gradd 1 ar draws mewn Arolwg Estyn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Darpariaeth, Zoe Goodall: “Fe wnaeth y canlyniad ein helpu i sicrhau twf enfawr yn ein contractau, bron dwbl erbyn 2010 – a chyflwyno hyd yn oed mwy o raglenni i bobl ifanc ac oedolion yng Nghymru.
“Arweiniodd y llwyddiant hwn at ein caffaeliad gan Goleg Caerdydd a’r Fro yn 2016 a oedd yn hynod bwysig o ran sicrhau dyfodol ACT a sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl yng Nghymru i wella’u bywydau trwy ddysgu.”
Nid yw’n syndod bod y sector addysg wedi gweld newidiadau enfawr ers yr wythdegau, nid yn unig yn y ffordd y mae cyrsiau’n cael eu darparu gyda datblygiadau technoleg newydd, ond hefyd yn ei heriau a’i bynciau.
Wrth siarad am bwysigrwydd hyfforddi nawr, dywedodd Zoe: “Mae’r hyn rydym yn ei ddarparu wedi esblygu yn unol â marchnad lafur sy’n newid, datblygiad cymwysterau a hyd yn oed sectorau newydd – yn enwedig yn y maes digidol a TG.
“Rydym wedi datblygu rhaglenni a llwybrau newydd i gefnogi cyflogwyr gyda datblygiad proffesiynol parhaus i’w gweithwyr a hefyd wedi esblygu ac addasu’r ffordd yr ydym yn darparu rhaglenni i bobl ifanc yng Nghymru i ddiwallu eu hanghenion newidiol, yn enwedig ar ôl y pandemig.”
Ychwanegodd Louise: “Mae niferoedd NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ledled Cymru yn cynyddu, ynghyd â heriau i bobl ifanc gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol, iechyd meddwl, a marchnad lafur heriol.
“Dyw addysg prif ffrwd ddim yn ‘addas i bawb’ felly mae angen cynnig darpariaeth amgen. Mae’r angen i gefnogi oedolion i uwchsgilio a newid eu gyrfa hefyd wedi cynyddu nawr bod pobl yn gweithio yn hirach.”
Gan edrych ymlaen at y dyfodol, mae ACT yn awyddus i adeiladu ar lwyddiant y 35 mlynedd diwethaf trwy fod hyd yn oed yn fwy arloesol a chreadigol gyda’r hyn a gyflawnir.
Ychwanegodd Zoe: “Rydym ni’n awyddus i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl yng Nghymru boed hynny yn eu datblygiad proffesiynol, i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd neu i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau posibl i gyrraedd eu potensial llawn.”
Myfyriodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, ar fwy na thri degawd o dwf yng Nghymru, gan ddweud: “Mae gallu dathlu 35 mlynedd fel busnes mewn unrhyw faes yn gyflawniad enfawr ond i ni mae hefyd yn golygu ein bod, ers dros dri degawd bellach, wedi gallu gwella bywydau trwy ddysgu.
“Er bod y ffordd yr ydym yn darparu hyfforddiant, yn ogystal ag anghenion ein cyflogwyr, wedi newid ers 1988, mae ein ffocws yn dal i fod ar ein cenhadaeth i gefnogi dysgwyr yn eu nodau addysgol, gyrfa a phersonol – mae hyn wedi ein galluogi i lywio drwy’r cyfnod diweddar o ansicrwydd a datblygiad.
“Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y garreg filltir anhygoel hon fel rhan o Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i helpu mwy o bobl i gyflawni eu nodau.”
Dywedodd Mike James, Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro: “Llongyfarchiadau mawr i ACT ar y garreg filltir arwyddocaol hon.
“Fel grŵp cydweithredol rydym yn parhau i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc, ac yn hyrwyddo dysgu i wella bywydau, ledled Cymru. Mae’r ffaith bod ACT yn dathlu 35 mlynedd o ddarparu’r cyfleoedd hyn yn gyflawniad anhygoel.”