Ar gyfer un o diwtoriaid mwyaf newydd ACT, mae ei dysgu wedi cwblhau’r cylch.
Dechreuodd yr asesydd gofal plant, Christie Davies ei thaith ddysgu pan gofrestrodd gyda Thwf Swyddi Cymru yn ddeunaw oed, ac mae hi bellach yn dathlu ei phenodiad fel tiwtor yn yr un adran.
Gadawodd Christie yr ysgol i ddod o hyd i brentisiaeth ar ôl methu ei harholiadau oherwydd nifer o rwystrau personol. Gwelodd hysbyseb am leoliad gofal plant ac roedd yn gallu cael cymorth ariannol er mwyn teithio yn ôl ac ymlaen rhwng ei chartref yn Y Barri a’i lleoliad gwaith yn Ffynnon Taf.
Meddai: “Gorffennais fy Lefel 2 CCLD (Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygu) a symud ymlaen i Lefel 3 ac yna Gwaith Chwarae.
“Wedi hynny, symudais o feithrinfeydd i ysgolion gan fy mod eisiau magu dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad plant. Es at ACT eto i ennill fy nghymhwyster Lefel 3 STLS (Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion).
“Fe’m cefnogwyd trwy’r holl gymwysterau gan fy nhiwtoriaid gwych a oedd yn deall fy mod i eisiau bwrw ymlaen ac yn hapus i ddanfon gwaith ataf yn gynnar a threfnu ymweliadau ychwanegol yn ôl yr angen.”
Ar ôl cwblhau pedwar cymhwyster gydag ACT, llwyddodd Christie i ennill ei statws HLTA (Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch) gyda Chonsortiwm Canolbarth y De.
Ychwanegodd Christie: “Rhoddodd y cymwysterau gyfoeth o brofiad addysgu i mi, rwy’n gobeithio y bydd hyn i gyd yn fy helpu yn fy rôl newydd yn ACT ac y gallaf drosglwyddo’r gefnogaeth a gefais i.
“Y peth mwyaf buddiol am y rôl i mi yw’r gallu i roi’r cyfleoedd rydw i wedi’u cael yn ôl. Fy nghyngor i unrhyw un sy’n mynd i faes gofal plant fyddai i gael hwyl. Os ydych chi’n frwdfrydig ac yn caru’ch swydd, bydd pob diwrnod yn wych. Ond hefyd, byddwch yn drefnus, cadwch eich adroddiadau a’ch gwaith papur yn gyfredol a chofiwch gadw lles y plant wrth galon. Os ydych chi eisiau rhywbeth mwy – ymladdwch drosto fe bob tro.”
Wrth edrych i’r dyfodol, mae Christie yn awyddus i beidio â gorffwys ar ei rhwyfau, er gwaethaf ei chyflawniadau helaeth.
Dywedodd: “Ar hyn o bryd rwy’n gweithio’n wirfoddol fel hyfforddwr cymorth cyntaf ar gyfer cadetiaid y môr. Rwy’n gobeithio cyfuno’r rolau a chefnogi addysgu ac asesu cymorth cyntaf i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal plant ond i wneud hynny rwy’n credu y bydd angen cymhwyster Addysg a Datblygiad Lefel 3 arnaf yn gyntaf.”
Os ydych chi am roi hwb i’ch gyrfa gofal plant, gallwch ddod o hyd i’n cyrsiau a’n cyfleoedd yma.