16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Cwmni

Mae’r sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi croesawu cynrychiolwyr o Gatalwnia i Gaerdydd i gyfnewid syniadau am hyfforddiant galwedigaethol a chyflogaeth ieuenctid.

Roedd yr ymweliad yn rhan o Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu, a chafodd ei drefnu gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Mae’r ymwelwyr yn gweithio i Adran Addysg Llywodraeth Catalwnia, gydag arbenigwyr mewn cyflogaeth ieuenctid a symudedd rhyngwladol, a chawsant gyfle i weld rhaglenni prentisiaethau a hyfforddiant ieuenctid ACT.

Mae’r NTFW, sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr hyfforddiant a dysgwyr ledled Cymru, yn meithrin partneriaethau cryf â rhanddeiliaid allweddol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Medr, Aelodau o’r Senedd, Cymwysterau Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn.

Mae’r Ffederasiwn yn dwyn ynghyd bedwar o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru – ACT, Itec Skills and Employment, Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac Educ8 – a chafodd pob un ohonynt eu cynrychioli yn ystod y trafodaethau.

Roedd yr ymweliad yn rhan o daith astudio ehangach yn Ewrop ar gyfer y garfan o Gatalwnia a fu’n ymweld â’r Ffindir, Ffrainc, yr Eidal, Portiwgal a Mecsico hefyd, i weld sut mae gwahanol genhedloedd yn cyflenwi rhaglenni hyfforddi a ariennir gan y llywodraeth.

Er bod gwahaniaethau rhwng y fframweithiau cymwysterau a’r cyrff dyfarnu, buan iawn y gwelodd y carfannau o Gymru a Chatalwnia bod ganddyn nifer o heriau’n gyffredin.

Ymhlith y rhain roedd cynnydd yn nifer y bobl ifanc NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), anawsterau wrth geisio ail-ymgysylltu â dysgwyr ar ôl

iddynt adael y system a’r galw cynyddol am well cefnogaeth iechyd meddwl mewn amgylcheddau hyfforddi.

Bu aelodau’r NtFW yn rhannu eu profiadau â’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+, sy’n arfogi pobl ifanc 16 i 19 oed â’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad gwaith angenrheidiol i symud ymlaen i waith neu ragor o hyfforddiant.

Yna, cyflwynwyd y rhaglen ALMA gan Maribel Rodriguez, arbenigwr mewn rhaglenni rhyngwladol gyda’r ddirprwyaeth o Gatalwnia. Caiff ALMA ei hariannu gan Gronfa Nawdd Cymdeithasol Sbaen, ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant, arweiniad gyrfaoedd a chyfleoedd am interniaethau mewn gwledydd eraill i bobl ifanc sy’n dymuno gweithio dramor.

Dywedodd Richard Spear, rheolwr gyfarwyddwr ACT: “Roedd yn brofiad eithriadol o werthfawr eistedd i lawr gyda’n hymwelwyr o Gatalwnia a dysgu am y camau arloesol maen nhw’n eu cymryd i fynd i’r afael â heriau rydyn ni’n eu hwynebu yng Nghymru hefyd.”

Ac meddai Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol NTFW, cadeirydd y cyfarfod: “Roedden ni wrth ein bodd yn rhannu’r ffordd rydyn ni’n hyrwyddo hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru. Mae’n amlwg, er ein bod ni’n wynebu rhwystrau tebyg, ein bod ni’n rhannu llawer o gryfderau hefyd. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein hatgoffa o rym cydweithio a phwysigrwydd dysgu oddi wrth ein gilydd.”

Rhannwch