16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr Newyddion

Efallai eich bod chi wedi clywed bod IEMA, yr Institute of Environmental Management and Assessment, yn gwneud newidiadau. Fel darparwr hyfforddiant sy’n darparu cyrsiau IEMA ledled Cymru, rydym ni, yn ACT, eisiau sicrhau eich bod yn deall beth mae hyn yn ei olygu i chi fel cyn-ddysgwr, dysgwr presennol neu ddysgwr yn y dyfodol.

O’r mis hwn, bydd cymwysterau IEMA yn cael eu hailenwi’n gymwysterau ISEP, sy’n sefyll am Institute of Sustainability and Environmental Practice. Mae’n bwysig nodi taw ail-frandio’r cymwysterau yn unig yw hyn, nid newid i’r sefydliad ei hun. Mae IEMA yn parhau i fod yn gorff proffesiynol uchel ei barch, ac mae’r cyrsiau (eu cynnwys, eu canlyniadau dysgu a’u strwythur) yn aros yr un peth. Byddwch yn dal i dderbyn yr un wybodaeth a sgiliau o ansawdd uchel, a gydnabyddir gan y diwydiant, ac y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mae’r ail-frandio wedi’i gyflwyno i adlewyrchu natur esblygol y proffesiwn amgylcheddol a chynaliadwyedd yn well.

Mae teitlau’r cyrsiau newydd wedi’u cynllunio i alinio’n agosach â rolau swyddi modern a disgwyliadau cyflogwyr, tra’n cyfathrebu’n glir pwrpas pob cymhwyster yng nghyd-destun y gweithle heddiw.

Beth os oes gennyf gymhwyster IEMA eisoes?

Os ydych eisoes wedi cwblhau cwrs IEMA gyda ni, mae eich tystysgrif yn dal i fod yn ddilys. Nid oes angen ail-wneud unrhyw hyfforddiant na phoeni am ei gydnabyddiaeth gan ei fod yn parhau i fod yn feincnod o’ch arbenigedd amgylcheddol a chynaliadwyedd. Mae IEMA wedi cadarnhau bod yr holl gymwysterau a gyhoeddwyd o dan yr hen strwythur enwi yn cael eu hadnabod yn llawn ac yn cario’r un pwysau.

Beth os ydw i’n gweithio tuag at gymhwyster ar hyn o bryd?

Os ydych chi’n astudio cwrs IEMA ar hyn o bryd neu os ydych chi ar fin dechrau cwrs, fe fydd y cwrs a’i gynnwys yn aros yr un fath. Efallai y bydd enw’r cymhwyster yn newid, ond ni fydd newid i’ch profiad dysgu. Wedi dweud hynny, efallai taw brandio newydd ISEP bydd ar eich tystysgrif, yn dibynnu ar pryd y byddwch chi’n cwblhau eich cwrs. Rydym yn gweithio’n agos gydag IEMA i sicrhau pontio llyfn ac i roi gwybod i’n holl ddysgwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brandio newydd neu’r cwrs yn gyffredinol, mae croeso i chi gysylltu â’ch tiwtor neu gysylltu â info@acttraining.org.uk

Rhannwch