About this Apprenticeship
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus iawn sydd â’r gallu i dalu sylw i’r manylion ac sy’n frwdfrydig dros weinyddu i ddod i ymuno â’n Tîm Datblygu Busnes fel Prentis Gweinyddwr Datblygu Busnes. Mae’r swydd hon yn gyfle i gaffael sgiliau newydd ac ennill incwm ar yr un pryd.
Mae prentisiaethau’n cynnig y cyfle i gaffael gwybodaeth a sgiliau drwy hyfforddiant wrth y gwaith, gan weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol profiadol. Yn ystod y broses hon, bydd unigolion yn cwblhau cymhwyster Lefel 3 Gweinyddu Busnes gyda chefnogaeth darparwr hyfforddiant ACT. Byddan nhw hefyd yn manteisio ar gael mentor neu oruchwyliwr dynodedig yn y gweithle. Er mwyn cwblhau’r prentisiaeth yn llwyddiannus, bydd angen bodloni gofynion cymhwyster penodol.
Caerdydd
Prentisiaeth Lefel 3 Gweinyddu Busnes
Llawn amser, Parhaol
£23,322 – £25,830 y flwyddyn pro rata (Gradd 4)
Mawrth 24, 2024
.
Y rôl:
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y swyddogaeth gwerthu a marchnata yn CBAC. Yn rhan o’r rôl hon, byddwch chi’n gweithio’n agos â phob rhan o’r gyfarwyddiaeth ac yn cefnogi holl aelodau’r tîm yn weinyddol. Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am gysylltu’n rheolaidd â’r holl dimau a rhanddeiliaid drwy gydol cylchred oes y broses werthu. Ar hyn o bryd mae’r rôl hon yn uniongyrchol atebol i’r Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
Highly-desirable Criteria
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar datblygedig
- Sgiliau llythrennedd digidol ac adrodd data rhagorol
- Sgiliau cyflwyno a threfnu
- Sgiliau ymchwil marchnata
- Sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
- Profiad o ddarparu cefnogaeth weinyddol
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm
Desirable Criteria
- Sgiliau cydlynu projectau
- Sgiliau gwerthu dros y cyfryngau cymdeithasol
- Sgiliau telefarchnata
- Sgiliau iaith Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
You will be contacted by telephone and email throughout the recruitment process, so please ensure you provide us with up-to-date contact details and check your messages regularly.