16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

About this Apprenticeship

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus iawn sydd â’r gallu i dalu sylw i’r manylion ac sy’n frwdfrydig dros weinyddu i ddod i ymuno â’n Tîm Datblygu Busnes fel Prentis Gweinyddwr Datblygu Busnes. Mae’r swydd hon yn gyfle i gaffael sgiliau newydd ac ennill incwm ar yr un pryd.

Mae prentisiaethau’n cynnig y cyfle i gaffael gwybodaeth a sgiliau drwy hyfforddiant wrth y gwaith, gan weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol profiadol. Yn ystod y broses hon, bydd unigolion yn cwblhau cymhwyster Lefel 3 Gweinyddu Busnes gyda chefnogaeth darparwr hyfforddiant ACT. Byddan nhw hefyd yn manteisio ar gael mentor neu oruchwyliwr dynodedig yn y gweithle. Er mwyn cwblhau’r prentisiaeth yn llwyddiannus, bydd angen bodloni gofynion cymhwyster penodol.

 

 

Caerdydd

Prentisiaeth Lefel 3 Gweinyddu Busnes

Llawn amser, Parhaol

 

£23,322 – £25,830 y flwyddyn pro rata (Gradd 4)

Mawrth 24, 2024

.

Y rôl:

Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y swyddogaeth gwerthu a marchnata yn CBAC. Yn rhan o’r rôl hon, byddwch chi’n gweithio’n agos â phob rhan o’r gyfarwyddiaeth ac yn cefnogi holl aelodau’r tîm yn weinyddol. Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am gysylltu’n rheolaidd â’r holl dimau a rhanddeiliaid drwy gydol cylchred oes y broses werthu. Ar hyn o bryd mae’r rôl hon yn uniongyrchol atebol i’r Cyfarwyddwr Datblygu Busnes

Highly-desirable Criteria

  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar datblygedig
  • Sgiliau llythrennedd digidol ac adrodd data rhagorol
  • Sgiliau cyflwyno a threfnu
  • Sgiliau ymchwil marchnata
  • Sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Profiad o ddarparu cefnogaeth weinyddol
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm

Desirable Criteria

  • Sgiliau cydlynu projectau
  • Sgiliau gwerthu dros y cyfryngau cymdeithasol
  • Sgiliau telefarchnata
  • Sgiliau iaith Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

You will be contacted by telephone and email throughout the recruitment process, so please ensure you provide us with up-to-date contact details and check your messages regularly.