16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Ynglŷn â’r Brentisiaeth hon

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio yn y Tîm Teulu a Ffrindiau bywiog a chyffrous yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r Tîm Teulu a Ffrindiau yn arbenigo mewn gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal gan aelodau estynedig o’r teulu neu ffrindiau a phlant sydd gartref gyda’u rhieni o dan orchymyn gofal. Rydym yn chwilio am brentis Plant a Phobl Ifanc i gynorthwyo ag amrywiaeth o brosiectau i helpu i barhau i lwyddo â’r Tîm Teulu a Ffrindiau.  Rhoddir cefnogaeth a hyfforddiant yn y gwaith tra’n cwblhau cymhwyster Lefel 3 Plant a Phobl Ifanc.

Maes Gwasanaeth: Gwasanaethau Plant wedi’i leoli yn y tîm Teulu a Ffrindiau. AP03

Mae gennym amrywiaeth o brentisiaethau ar gael gyda chyflogaeth a hyfforddiant cychwynnol yn cael eu cynnig tan 31 Mawrth 2025.  Byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol ar lefel Cyflog Byw Gwirioneddol o £21,030 y flwyddyn ar gontract 37 awr yr wythnos.

Fel un o gyflogwyr mwyaf y Ddinas, rydym yn awyddus i gyflogi prentisiaid ifanc sydd â’r cymhelliant, yr ymrwymiad a’r gwerthoedd cywir i weithio yn ein rolau gwerth chweil a boddhaus.   Byddwch yn cael eich cyflogi gan y Cyngor ac yn treulio rhan o’ch amser yn gweithio i ni tra hefyd yn astudio i ennill y cymhwyster prentisiaid.  Wrth weithio i ni, byddwch yn derbyn mentoriaeth ac arweiniad a chymorth drwy eich cyflogaeth, gan hefyd gael eich cefnogi i ymgymryd ag elfen gymhwyster y rhaglen brentisiaeth.

Ein nod yw adeiladu gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac felly rydym yn annog ceisiadau gan bobl lleiafrifoedd ethnig, pobl LHDTC+ a phobl anabl, yn ogystal â phobl sy’n gadael gofal. Mae gan y cyngor nifer o rwydweithiau staff sy’n cynnig cymorth cymheiriaid i staff o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Os hoffech siarad ag aelod o’r rhwydwaith am sut beth yw gweithio i’r cyngor, anfonwch e-bost at nccequality@newport.gov.uk

Casnewydd

37 awr yr wythnos

Dydd Llun – Gwener

£21,030 y flwyddyn

Tachwedd 6th,  2023

 

 

Dyletswyddau

  • Ymgysylltu a chefnogi plant, pobl ifanc ac aelodau o’u teulu wyneb yn wyneb a thros y ffôn neu e-bost
  • Cefnogi gyda thasgau gweinyddol
  • Cynorthwyo gydag asesiadau cyllid
  • Cefnogi’r tîm i hybu plant i ddod i gysylltiad â rhieni ac aelodau’r teulu
  • Cefnogi’r tîm i ddatblygu llyfrau stori bywyd
  • Darparu cefnogaeth i’r tîm Gwaith Cymdeithasol yn ôl yr angen

Gofynion

Fodd bynnag, nid oes angen profiad ffurfiol ar gyfer y brentisiaeth hon

  • Addysg i Safon TGAU gan gynnwys Graddau A*-C (neu 4-8) mewn Saesneg a Mathemateg.
  • TGCh/Profiad Digidol.
  • Bydd angen dealltwriaeth gadarn a rhesymegol o’r rhaglen brentisiaeth a gynigir.
  • Sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.

Sgiliau

  • Cymraeg Iaith TGAU gradd A-C.
  • Gwybodaeth am wasanaethau’r Sector Cyhoeddus.
  • Cyfforddus yn Microsoft Office a’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.

Dod yn Brentis