16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Mae hwn yn fan cychwyn delfrydol os nad ydych yn siŵr beth rydych am ei wneud neu os oes angen rhywfaint o gymorth arnoch i ddeall beth yw eich opsiynau. 

Bydd eich cynllun dysgu unigol yn cynnwys:

  • Cyfleoedd dysgu mewn canolfan
  • Treialon gwaith byr gydag amrywiaeth o gyflogwyr mewn gwahanol sectorau
  • Amrywiaeth eang o gyfleoedd cyfoethogi gan gynnwys gwaith gwirfoddol, prosiectau cymunedol, siaradwyr gwadd, ymweliadau gan gyflogwyr, gweithgareddau menter, gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar les, a thripiau a phrofiadau

Ar y llinyn hwn, rydym yn ceisio eich annog i geisio ystod eang o weithgareddau cyfoethogi diddorol i helpu i fagu eich hyder. Rydyn ni’n teimlo ei fod yn eich helpu i ddarganfod beth rydych chi’n ei hoffi a beth yw eich cryfderau.

Ar y llinyn hwn byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi o hyd at £30 yr wythnos ac unwaith y byddwch wedi’i gwblhau byddwch yn symud i’r Llinyn Datblygu.