SkillsCymru yw’r digwyddiadau mwyaf ar gyfer gyrfaoedd, swyddi a sgiliau yng Nghymru, sy’n cae eu cynnal yn Llandudno a Chaerdydd. Yn ddigwyddiadau rhyngweithiol ac ysbrydoledig iawn, un nod sydd ganddynt sef rhoi cyfle unigryw i bobl ifanc ddarganfod pwy allen nhw fod. O’r amrediad eang o gyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau mewn sectorau diwydiant allweddol i brifysgolion a cholegau sy’n cynnig atebion i ymholiadau am lwybrau gyrfa, cynghorau sgiliau sector a chyrff cyngor gyrfaoedd, SkillsCymru yw’r siop un stop ar gyfer gyrfaoedd yng Nghymru. Â
Mae digwyddiadau hynod ryngweithiol SkillsCymru yn cynnig dysgu drwy brofiadau, fel creu gardd o’r cychwyn cyntaf, dadansoddi man trosedd, darllen y newyddion a llawer iawn mwy. Mae arddangosiadau’n helpu ymwelwyr i ganolbwyntio ar feysydd sydd o ddiddordeb, yn ogystal â’u hannog i archwilio llwybrau gwahanol i mewn i amrediad anferth o gyfleoedd gyrfa. Yn rhad ac am ddim i’w fynychu!
*Mae bwrsari teitio ar gael i grwpiau sy’n neilltuo lle am fwy na 45 o fyfyrwyr. Rydym yn argymell bod grwpiau blwyddyn cyfan yn mynychu o Flynyddoedd 10, 11, 12 a 13. Gall grwpiau o ddysgwyr o golegau a sefydliadau fynychu mewn grwpiau tiwtor neu grwpiau galwedigaethol llai o faint.
Manteision: (Benefits)
Gallwch chi gwrdd â:
- Chyflogwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus
- Colegau addysg bellach
- Prifysgolion
- Darparwyr Hyfforddiant
- Cynghorau Sgiliau Sector
I gyd o dan un to!
Llandudno, Venue Cymru, 7-8 Hydref
Caerdydd, Arena Motorpoint, 21-22 Hydref
Cadwch eich lle chi yma: http://www.skillscymru.co.uk/
Ar gyfer: Rhieni/gofalwyr
Bydd SkillsCymru yn galluogi pobl ifanc i roi cynnig ar amrediad eang o gyfleoedd swydd a hyfforddiant a chael eu hysbrydoli am eu gyrfaoedd yn y dyfodol. P’un a ydyn nhw’n dewis mynd i brifysgol/coleg neu ymgymryd â phrentisiaeth, dewis yr yrfa gywir iddyn nhw yw’r cam cyntaf tuag at benderfynu pa addysg bellach mae arnyn nhw ei hangen i’w chyflawni. Cyflogwyr oedd 68% o’r holl arddangoswyr yn 2014. Mae digwyddiadau hynod ryngweithiol SkillsCymru yn croesawu mwy na 100 o gyrff sy’n ysbrydoli hyd at 10,000 o ymwelwyr
Mae’r holl arddangoswyr yn awyddus i ddenu sylw’ch pobl ifanc a dangos iddyn nhw sut peth yw gyrfa yn eu hesgidiau nhw. Bydd y gweithgareddau yn gadael iddyn nhw archwilio’r dewisiadau aruthrol o ran gyrfa sydd ar gael; gan gwrdd â chyflogwyr o sectorau diwydiant allweddol sy’n cynnig prentisiaethau, prifysgolion a cholegau sy’n ateb ymholiadau am lwybrau tuag at yrfa, darparwyr hyfforddiant a chyrff cyngor gyrfaoedd. Os dymunwch sicrhau bod eich plentyn chi’n gwneud y dewis cywir o ran gyrfa iddyn nhw, bydd yr ysbrydoliaeth a’r arbenigedd priodol ar gael yn SkillsCymru.
Dewch draw i’r noson agoriadol a gweld drosoch eich hunan:
Llandudno, Venue Cymru, 7 Hydref 5pm-7pm
Caerdydd, Arena Motorpoint, 21 Hydref 5pm-7pm
Os na allwch chi ddod i’r sesiwn noson bwrpasol, mae’r digwyddiadau ar agor ar y dyddiadau a’r amserau canlynol hefyd:
Llandudno, Venue Cymru, 8 Hydref 9.30am-3pm
Caerdydd, Arena Motorpoint, 21Hydref 9.30am-3pm
Caerdydd, Arena Motorpoint, 22Hydref 9.30am-3pm
Dysgwch fwy yma: http://www.skillscymru.co.uk/
Â