16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Medi 2024 / Company

Dros gyfnod o 23 blynedd o hyfforddi pobl, mae Ros Smith wedi ymroi i newid bywydau ei dysgwyr.

A hithau’n diwtor arweiniol cerbydau modur gydag ACT Training yng Nghaerdydd, mae Ros yn rhan o dîm sy’n llywio ac yn cyflenwi Hyfforddeiaethau Cerbydau Modur Lefel 1 ac Ymgysylltu ar 10 safle ledled de Cymru, mewn dwy garej go iawn yn bennaf.

Er bod Ros wedi datblygu dwy ffrwd o’r cwricwlwm ar gyfer Lefel 1 ac Ymgysylltu, mae’n barod i addasu a gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod pob dysgwr ifanc yn cael y profiad gorau.

Yn awr, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Ros wedi helpu i drawsnewid Hyfforddeiaeth Cerbydau Modur ACT; mae 96% o’r dysgwyr yn symud ymlaen at ddysgu pellach neu i waith er bod 90% yn cael ei gyfrif yn rhagorol ar raddfa genedlaethol.

Mewn amgylchedd sy’n cynnwys dynion yn bennaf, mae Ros wedi dod yn fodel rôl ardderchog ar gyfer merched ifanc sy’n dechrau yn y proffesiwn ac i fenywod ifanc trwy’r sefydliad cyfan.

Mae Ros, sy’n byw ym Mhontypridd, bob amser yn mynd yr ail filltir, ac mae wedi dilyn hyfforddiant mewn canfyddiad, dadansoddi trafodol, seicoieithyddiaeth a deallusrwydd emosiynol fel y gall ddeall ei dysgwyr yn well. Mae hefyd wedi meithrin cysylltiadau â chwmnïau modurdai bach a mawr sy’n cymryd ei dysgwyr erbyn hyn.

Meddai: “Rwy bob amser yn meddwl am weithgareddaunewydd a fydd yn helpu i sicrhaudyfodolgwell ar gyfer fy nysgwyr.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Ros ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

Rhannwch