16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Medi 2024 / Company

‘Trysor o diwtor’ yw disgrifiad ACT Training o Kirsty Keane ac mae’n hawdd gweld pam y mae hi mor uchel ei pharch.

Bu Kirsty’n gweithio gyda phobl ifanc 16-18 oed fel tiwtor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Blynyddoedd Cynnar ers 2015 ac mae wedi cefnogi 91 o ddysgwyr trwy Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal gyda phob un ohonynt yn camu ymlaen i hyfforddiant pellach neu waith – canlyniad gwych ar lefel Hyfforddeiaeth.

Un rheswm dros y llwyddiant hwn yw bod Kirsty’n gwneud amser ar gyfer ei dysgwyr, yn gwrando ar eu gobeithion, eu breuddwydion a’u hofnau ac, ar yr un pryd, yn trefnu profiadau unigryw i’r dysgwyr gan ragori ar ddisgwyliadau pobl sydd, yn aml, ag anghenion a rhwystrau cymhleth.

Yn awr, cafodd ei hymroddiad i’w dysgwyr ei gydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Diwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Er mai dim ond 26 oed yw Kirsty, mae ganddi 10 mlynedd o brofiad fel gweithiwr cymorth gyda phobl anabl a gweithiwr cymorth dysgu un i un. Bu ei datblygiad personol yn syfrdanol gyda TAR Ôl-16, Gradd Anrhydedd BA mewn Astudiaethau Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal Plant ac Addysg.

Gan ei bod wrth ei bodd yn arloesi, bu mewn seminar ar ganu ar gyfer dementia, a daeth ag arbenigwr yn y pwnc i roi darlith i’w myfyrwyr. Arweiniodd hynny at welliant yn arferion gorau ACT.

Yn ogystal, trefnodd Kirsty brynhawn hwyl Slawer Dydd yn ACT lle be dysgwyr Gwallt a Harddwch, Arlwyo a Gofal yn cael profiadau ymarferol, gwerthfawr.

Dywedodd rheolwr marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ACT, Jayne McGill-Harris: “Mae Kirsty yn ferch angerddol, cefnogol a mawr ei gofal ac mae ei ffordd o weithio, ei defnydd o arferion gorau a’i llwyddiant wedi helpu i gryfhau ein rhaglenni eraill ni hefyd.”

Meddai Kirsty: “Y peth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi yw gweld fy nysgwyr yn symud ymlaen i rywbeth difyr ac ystyrlon.”

Wrth longyfarch Kirsty ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Rhannwch